Tu Ôl i'r Llenni

Awdur: Eirlys Wyn Jones.

Mae'r Ail Ryfel Byd ar ei anterth, a dynion cefn gwlad Cymru yn ymladd yn y ffosydd. Mae merched un gymuned fechan yn Eifionydd yn gorfod dygymod â bywyd heb eu gwŷr, eu meibion a'u brodyr, gan geisio magu a bwydo'u teuluoedd mewn cyfnod ansicr. Tydi pob merch ddim yn dygymod cystal ag eraill, ond cânt oll eu heffeithio pan sylweddolant fod rhywbeth neu rywun yn stelcian o gwmpas yn y nos.

 

Cafodd Eirlys Jones ei magu yn Rhosfawr a'r Ffôr, ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Y Ffor ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn gadael yr ysgol yn 16 oed a mynd i weithio i swyddfa'r Dreth Incwm cyn priodi Griff a chael tri o blant, Lynne, Iolo a Non. Mae ganddi erbyn hyn wyth o wyrion a wyresau.

Bu'n ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddi ymddeol yn 2017, ac er iddi fod â diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg erioed (a chystadlu ambell waith ar gystadlaethau llenyddol mewn eisteddfodau lleol) wnaeth hi ddim troi at ysgrifennu o ddifrif tan iddi ymddeol. Mentrodd anfon ei nofel gyntaf, Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti? (gydag anogaeth ei gŵr) i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018, a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid, Meinir Pierce Jones, Bet Jones a Gareth Miles, am ei hiaith goeth.

Mae Eirlys wrthi'n gweitho ar ei thrydedd nofel, ac yn ei hamser hamdden mae'n mwynhau teithio ymhell ac agos, darllen, garddio a gwaith llaw.

£8.50 -



Rhifnod: 9781845277932
9781845277932

Falle hoffech chi .....