Trefor Edwards, Casgliad o Oreuon

Tracks –

01 - Hen Benillion

02 - Meirionnydd

03 - Can Wil y tloty

04 - Cymru

05 - Yr eira ar y coed

06 - Trafferth mewn tafarn

07 - Can yr henwr

08 - Bywyd y bugail

09 - Bardd yr oed a'r rhedyn

10 - Brenin y canibalyddion

11 - Y Gwanwyn

12 - Mynnwch y ddaear yn ol

13 - Swn y gwynt sy'n chwythu

14 - Rhyfedd, rhyfedd

15 - Y fun o eithin fynydd

16 - Salm 23

17 - Y mor

18 - Awn i Fethlehem

19 - Corlannau.

 

 

Y llais sy’n aros yn y cof: llais dwfn, peraidd, diymdrech un â dawn y gwir artist i wneud i’r astrus swnio’n hawdd. Fe’i clywais gyntaf pan gychwynnais yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion ddechrau’r chwedegau, ac yntau’n athro Cymraeg a fyddai’n cynnal dosbarthiadau gosod cerdd dant amser cinio. Wedi hynny fe’i clywais mewn sawl gwyl a chyngerdd ac eisteddfod, yn dyrchafu cerdd dant i dir newydd gyda’i ddehongliad o Yr Eira ar y Coed, yn gwefreiddio cynulleidfaoedd gyda chaneuon gwerin fel Cân Wil y Tloty, neu’n llefaru mor glir ac ystyrlon nes gwneud geiriau canoloesol Trafferth Mewn Tafarn yn gyfoes a dealladwy.

A daw atgofion amdano’n diddanu heb unrhyw drafferth mewn tafarn yn ne orllewin Iwerddon. Mae rhyw ugain mlynedd er pan fu raid i fy ngwr a minnau adael ein pabell yn ystod dilyw a chael gwely a brecwast mewn ty lle’r oedd Trefor a Mair yn digwydd aros. Cawsom eu cwmni yn y prynhawn i gerdded i ben mynydd, cyn i bawb ymgynnull gyda’r nos yn nhafarn O Cathain, sefydliad sy’n hen gyfarwydd â chanu Celtaidd traddodiadol.

Cyn gynted ag yr agorodd Trefor ei geg distawodd pob sgwrs ac roedd y Gwyddelod wedi eu swyno gan ganeuon Cymraeg na ddeallent yr un gair o’u geiriau. Hyd heddiw, pan awn yn ôl yno ar ein pererindod flynyddol, bydd rhywrai’n siwr o holi gydag edmygedd am “that Welsh teacher of yours”.

Yn y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi gorfod esbonio na fydd Trefor Edwards ddim yn ôl yno. Ond y tro nesaf mi awn â’r CD efo ni, fel eu bod nhw’n cael clywed llais y “Welsh teacher” unwaith eto, mewn casgliad cyfoethog sy’n cwmpasu ei holl ddoniau rhyfeddol. .... Alwena Roberts.

 

Traciau -

01 - Hen Benillion

02 - Meirionnydd

03 - Can Wil y tloty

04 - Cymru

05 - Yr eira ar y coed

06 - Trafferth mewn tafarn

07 - Can yr henwr

08 - Bywyd y bugail

09 - Bardd yr oed a'r rhedyn

10 - Brenin y canibalyddion

11 - Y Gwanwyn

12 - Mynnwch y ddaear yn ol

13 - Swn y gwynt sy'n chwythu

14 - Rhyfedd, rhyfedd

15 - Y fun o eithin fynydd

16 - Salm 23

17 - Y mor

18 - Awn i Fethlehem

19 - Corlannau.

£2.99 - £5.99



Code(s)Rhifnod: 5016886243924
SAIN SCD2439

You may also like .....Falle hoffech chi .....