Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Awdur: Eurig Salisbury.
Cyfres: Cyfres Halibalŵ.
Tŷ Bach oedd enw'r lle, ond nid tŷ bach mohono. Byddai pobl weithiau'n cerdded heibio, yn oedi wrth weld enw'r tŷ ac yn chwerthin yn uchel – ha ha ha! – cyn cerdded i ffwrdd yn ddiolchgar eu bod yn byw mewn tai LLAWER MWY. Ond roedd Tŷ Bach yn fach ac yn hardd ac yn dwt ac, yn fwy na dim, roedd yn glyd.