Author: E. G. Millward.
Welsh Football's Odyssey to Euro 2016, The Diary of a Reporter Supporter.
The autobiography of Welsh academic and politician Tedi Millward, a specialist on Victorian Welsh literature and a key figure in the formation of the Welsh Language Society. A preface by Jamie Bevan.
Awdur: E. G. Millward.
Hunangofiant yr academydd a'r gwleidydd Tedi Millward, arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria a ffigwr allweddol yn hanes ffurfiannol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rhagair gan Jamie Bevan.
Dyma atgofion un o gewri tawel ein hiaith a’n diwylliant, gwr a fu’n rhan ffurfiannol o rai o sefydliadau a mudiadau pwysicaf y Gymru gyfoes.
Mae rhestr cydnabod Tedi Millward yn cynnwys D. J. Williams, Gwynfor Evans, Waldo Williams, Siân Phillips a Saunders Lewis, i enwi dim ond rhai. Tedi biau’r clod am fathu enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a’i sefydlu ynghyd â John Davies, Bwlch-y-llan. Bu hefyd yn is-lywydd Plaid Cymru ac yn ymgeisydd dros y blaid.
Yn arbenigwr blaenllaw ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria, bu’n ddarlithydd a darllenydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan ddylanwadu ar genedlaethau o fyfyrwyr.
Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys darnau o sgwrs rhwng Tedi Millward a Jamie Bevan, cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith.