Stuart Burrows, Ffefrynnau Cymraeg a Saesneg

Sings Welsh and English Favourites

In the early 70s, when his voice was at its very peak, Stuart Burrows recorded 73 songs in an amazing over-night session for Decca. The best of that unique session is heard on this bilingual selection of his favourite 17 ballads.

Tracks –

01. Paradwys y Bardd

02. Blodwen F'anwylyd

03.The Woods of Gortnamona

04. Gweddi Pechadur

05. Sul y Blodau

06. Serenata

07. Bugail Aberdyfi

08. O na Byddai'n Haf o Hyd

09. Mary of Argyll

10. Yr Hen Gerddor

11. Mother of Mine

12. Y Dieithryn

13. Elen Fwyn

14. I Hear You Calling Me

15. Arafa Don

16. Danny Boy

17. Annabelle Lee.

 

 

“Ffefrynnau Cymraeg a Saesneg”: 17 o ganeuon a recordiwyd pan oedd llais un o’n prif denoriaid ar ei orau. Un o’r casgliadau tenor gorau erioed o’i bath.

Ganwyd Stuart Burrows yng Nghilfynydd, ger Pontypridd, ar Chwefror 7fed, 1933. Cafodd ei addysg bellach yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, a bu’n athro am rai blynyddoedd. Roedd yn chwaraewr rygbi disglair, a chafodd gynnig cytundeb gyda Chlwb Rygbi Leeds, ond gwrthod a wnaeth, a phenderfynu ar yrfa fel canwr proffesiynol. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol gyntaf yng Nghymru pan enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1959. Bedair mlynedd yn ddiweddarach, ymddangosodd am y tro cyntaf ar lwyfan Opera Genedlaethol Cymru yn Nabucco. Fe’i gwelwyd yn canu gan Stravinsky a drefnodd iddo ganu yng Ngwyl Athen yn 1967, a gwnaeth ei berfformiadau syfrdanol yn Oedipus Rex yno gipio sylw’r byd opera, a dechreuwyd sôn amdano fel tenor telynegol o’r radd flaenaf un.

Mae’r casgliad gwych yma’n siwr o dderbyn croeso gan ei lu edmygwyr. Dyma denor dihafal – llais persain, dehongli ystyrlawn a chanu eneiniedig. Does ryfedd yn y byd iddo ddenu sylw, canmoliaeth ac edmygedd rhai o feirniaid cerdd pwysicaf ei ddydd. Rhys Jones, Ionawr 2010.

Traciau -

01. Paradwys y Bardd

02. Blodwen F'anwylyd

03.The Woods of Gortnamona

04. Gweddi Pechadur

05. Sul y Blodau

06. Serenata

07. Bugail Aberdyfi

08. O na Byddai'n Haf o Hyd

09. Mary of Argyll

10. Yr Hen Gerddor

11. Mother of Mine

12. Y Dieithryn

13. Elen Fwyn

14. I Hear You Calling Me

15. Arafa Don

16. Danny Boy

17. Annabelle Lee.

 

£5.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5016886255620
SAIN SCD2556

You may also like .....Falle hoffech chi .....