Steve Eaves, Ffoaduriaid

A comprehensive collection by one of Wales' finest singer-composers, including seven albums and various tracks released between 1984 and 1999 over 5 disks. Below is a selection of 10 tracks from the 5 CDs.

1: Hogia Cyffredin

2: Traws Cambria

3: Pymtheng Mlynedd

4: Wyn bach Iesu Grist

5: Affrikaners y Gymru newydd

6: Noson arall hefo'r drymiwr

7: Y Canol Llonydd Distaw

8: Che Guevara

9: Iesu Grist ar y tren o Gaer

10: Maddeuant mor felys.

 

 

Casgliad cynhwysfawr gan un o gantorion-gyfansoddwyr amlycaf Cymru, yn cynnwys saith albym a chaneuon unigol amrywiol a gyhoeddwyd rhwng 1984 a 1999.

Mae Steve Eaves bellach yn un o eiconau canu cyfoes Cymru. Yn gitarydd a chanwr ers mwy na phedwar degawd, bu’n recordio a pherfformio ei ganeuon acwstig a blŵs ers dechrau’r 80au, ac mae’r casgliad hir-ddisgwyliedig hwn yn cwmpasu cyfnod helaeth o recordio gan Steve a’i gyd gerddorion. Mae’n gasgliad sy’n tynnu ynghyd ganeuon a ymddangosodd yn wreiddiol ar gasetiau, ar feinyl ac ar gryno ddisgiau, ac sydd heb fod ar gael ers tipyn.

Perthyna Steve i’r genhedlaeth o feirdd a gafodd eu tanio gan roc’n’rôl a blŵs a jazz ac ysbryd y ‘beat poets’, ac mae ei gyfrolau o gerddi a’i ganeuon yn plethu elfennau o’r arddulliau yma i greu cyfrwng mynegiant personol iawn, rhywbeth cwbl unigryw i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg. O roc amrwd Steve a’i ‘Driawd’ ar ‘Viva la Revolucion Galesa’ a ‘Cyfalaf a Chyfaddawd’, i ganu serch ‘Croendenau’ ac arddull ysbrydol a grymus ‘Y Canol Llonydd Distaw’, mae pob recordiad yn adrodd ei stori ei hun, ac yn arddangos didwylledd a gonestrwydd wrth ymdrin â phynciau megis cariad a pherthynas pobl â’i gilydd, themâu ysbrydol ac anghyfiawnder cymdeithasol.

Cyflwyna Steve y casgliad hwn er cof am ei gyfaill Iwan Llwyd, a fu’n chwarae’r bâs ar y recordiadau ac ym mherfformiadau Steve am dros 25 mlynedd. Roedd y ddau yn rhannu’r un diddordeb mewn cyfuno barddoniaeth a cherddoriaeth. Clywir y ddau gyfrwng yn dod ynghyd gyda llais Iwan yn darllen cerdd Steve ‘Garej Lon Glan Môr’ ar yr albym ‘Y Canol Llonydd Distaw’. Yn y llyfryn a gynhwysir gyda’r casgliad, mae Steve yn talu teyrnged hefyd i’r holl gerddorion eraill y cafodd y fraint o weithio gyda nhw ar hyd y blynyddoedd – gan gynnwys yr offerynnwr amryddawn Elwyn Williams, partner cerddorol Steve o’r cychwyn cyntaf ac a gyd-gynhyrchodd bopeth a glywir ar y casgliad hwn; Les Morrison, ‘arwr mwyn a di-sylw y canu cyfoes Cymraeg’ a fu hefyd yn cynhyrchu a pheiriannu ar sawl albym; a llu o gerddorion eraill megis Gwyn Jones (Maffia), Hefin Huws, Richard Wyn Jones, Dafydd Dafis, Pwyll ap Siôn, ac wrth gwrs y gantores wych Jackie Williams, a ymunodd â Steve i ganu llais cefndir yn nyddiau recordio ‘Sbectol Dywyll’ yn 1989 ac a gyfoethogodd bopeth a recordiwyd ganddo ers hynny. Gyda chyfraniadau ysgrifenedig gan Elwyn Williams, Les Morrison, Tony Schiavone, Owain Schiavone a Steve ei hun, dyma gasgliad diffiniol i’r cyfarwydd a mynedfa go eang i’r lleyg. Yn anad dim, mae’n damaid, go sylweddol, i aros pryd, tan y tro nesaf…

Isod mae detholiad o draciau oddi ar y 5 CD -

1: Hogia Cyffredin

2: Traws Cambria

3: Pymtheng Mlynedd

4: Wyn bach Iesu Grist

5: Affrikaners y Gymru newydd

6: Noson arall hefo'r drymiwr

7: Y Canol Llonydd Distaw

8: Che Guevara

9: Iesu Grist ar y tren o Gaer

10: Maddeuant mor felys.

£16.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886263328
SAIN SCD2633

You may also like .....Falle hoffech chi .....