Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Tracks -
01. C-C-Cariad! (Estrons)
02. Tyrd yn ôl (Y Trwbz)
03. Aberystwyth yn y Glaw (Ysgol Sul)
04. Mwg Bore Drwg (Henebion)
05. Neb yn Aros (Terfysg)
06. Meddwl ar Goll (Patrobas)
07. Resiradaeth (Cpt Smith)
08. Terfyn (Y Galw)
09. Llwybrau (Raffdam)
10. Neb yn Cofio (Argrph)
11. Coleg Bywyd (Magi Tudur).
Datblygodd syniad Clwb Senglau’r Selar wrth i ni baratoi i ddathlu pen‑blwydd Y Selar yn 10 oed yn Nhachwedd 2014. A’r cylchgrawn wedi rhoi sylw cyson i artistiaid newydd erioed, pa ffordd well i nodi’r garreg filltir na thrwy lansio cynllun i ryddhau senglau cyntaf yr artistiaid ifanc mwyaf cyffrous roedden ni’n dod ar eu traws.
Ers hynny mae’r Clwb Senglau wedi rhyddhau 10 o ganeuon gan grwpiau amrywiol iawn, gan adlewyrchu amrywiaeth genres y sin Gymraeg ar hyn o bryd. Mae mor anodd, ond eto mor bwysig, i grwpiau ifanc gael y cyfle cyntaf yna i fynd i stiwdio broffesiynol, a recordio trac i safon uchel. Rydan ni’n falch iawn bod Clwb Senglau’r Selar wedi gallu cynnig nid yn unig y cyfle yna i fynd i stiwdio, ond i’r rhan fwyaf o’r bandiau, y cyfle i recordio eu cynnyrch cyntaf yn stiwdio eiconig Sain yn Llandwrog.
Mae’r senglau i gyd wedi cael ymateb da, ac mae’n destun balchder gweld bod nifer o’r bandiau wedi mynd ymlaen i recordio a rhyddhau mwy o gynnyrch wedi hynny. Gobeithio bod y cynllun wedi helpu rhoi’r hwb bach cyntaf iddyn nhw.
Wrth gwrs, yn ddigidol yn unig mae’r traciau wedi eu rhyddhau hyd yma, felly roedd rhaid casglu’r traciau i gyd ynghyd ar un casgliad CD i ddathlu llwyddiant Senglau’r Selar – mwynhewch.
Traciau -
01. C-C-Cariad! (Estrons)
02. Tyrd yn ôl (Y Trwbz)
03. Aberystwyth yn y Glaw (Ysgol Sul)
04. Mwg Bore Drwg (Henebion)
05. Neb yn Aros (Terfysg)
06. Meddwl ar Goll (Patrobas)
07. Resiradaeth (Cpt Smith)
08. Terfyn (Y Galw)
09. Llwybrau (Raffdam)
10. Neb yn Cofio (Argrph)
11. Coleg Bywyd (Magi Tudur).