Lleisiau Bechgyn Cymru

Casgliad o ganeuon poblogaidd gan 11 o leisiau trebl mwyaf adnabyddus Cymru.

Gan gychwyn gyda lleisiau Emyr Wyn a Philip Watkins, drwy oes aur Aled Jones hyd at y cyfnod presennol, hwn fydd y casgliad cyntaf erioed o gantorion trebl ar un CD.

Medd llefarydd ar ran Sain: “Mae’r casgliad hwn yn dystiolaeth ddisglair o dalentau Cymru yn y maes arbennig yma”. Mae’n anodd diffinio apêl oesol llais bachgen ifanc, ond ar ei orau mae iddo ryw burdeb arbennig sy’n gallu ein codi i’r entrychion. Ar y casgliad hwn – y cyntaf o’i fath – cawn glywed y goreuon o blith lleisiau bechgyn Cymru dros gyfnod o hanner canrif. Roedd Emyr Wyn a Philip Watkins ymhlith y ddau gyntaf i wneud recordiau yng Nghymru, ac y mae’r traddodiad a arloeswyd ganddyn nhw yn parhau gyda thalentau disglair fel Rhys Meilyr a Steffan Rhys Hughes yn ail ddegawd y ganrif bresennol.

Yn Lloegr, cysylltir llais y glaslanc â chanu eglwysig, ac er fod hynny yn rhannol wir yma yng Nghymru hefyd, mae’n debyg mai’r Eisteddfod sy’n rhoi llwyfan ac amlygrwydd i’r lleisiau ifanc yma yn amlach na pheidio. Ac fel y tystia’r enwocaf ohonynt, Aled Jones, yr Eisteddfod a roddodd iddynt y cyfle i ddatblygu eu doniau a magu hyder gerbron cynulleidfaoedd mawr a bach, a gosod sylfaen ar gyfer gyrfa ehangach. Gan mai cyfnod cymharol fyr, o reidrwydd, sydd i’r lleisiau hyn, mae galw cyson wedi bod i gael cofnod ohonynt ar un casgliad digidol fel hyn, ac y mae’n bleser gan Sain i ymateb i’r galw hwnnw, a dwyn y cyfoeth hwn o leisiau i sylw’r byd.

Traciau -

1: Ave Maria - Aled Jones

2: Oh Holy Night - Aled Jones

3: F'Annwyl Wyt Ti - Philip Watkins

4: Dod ar fy Mhen - Philip Watkins

5: The Christ Child - Oliver Sammons

6: Ave Maria - Oliver Sammons

7: Bugeilio'r Gwenith Gwyn - Huw Edward Jones

8: Tawel Nos - Dylan Eurig

9: On Wings of Song - Carwyn Llŷr

10: Morning Has Broken - Carwyn Llŷr

11: Pwy yw Sylfia? - Richard Davies

12: Huna, Huna - Richard Davies

13: Panis Angelicus - Darren Roberts

14: Pie Iesu - Darren Roberts

15: Mi Glywaf Dyner Lais - Emyr Wyn

16: Y Darlun - Emyr Wyn

17: The Lord is My Shepherd - Steffan Rhys Hughes

18: I Ti Dymunwn Fyw - Steffan Rhys Hughes

19: Iesu Yw - Rhys Meilyr 20: Rho Fory i Minnau - Rhys Meilyr.

£7.99 - £9.99



Rhifnod: 5016886269726
SAIN SCD2697

Falle hoffech chi .....