Rhywle Fel Hyn

Author: Dafydd Iwan.

We have heard Dafydd Iwan's songs for over half a century. We are so familiar with the words and melodies. They are part of the fabric of being Welsh. Yet, there is always something new to learn about each song.


 

Awdur: Dafydd Iwan.

Rydyn ni wedi clywed rhai o ganeuon Dafydd Iwan ers dros hanner canrif. Mae'r geiriau a'r alawon mor gyfarwydd. Maent yn rhan o fywyd pob Cymro gwerth ei halen. Eto, mae rhywbeth newydd i'w ddysgu am bob cân.

Trodd rhai o'i ganeuon yn anthemau. Clywir Yma o Hyd yn rheolaidd ar Barc y Strade. Fe'u clywyd hefyd mewn man mor annisgwyl ag uffern maes y gad yn Kosovo.


Yn ei ganeuon gwleidyddol, mae'n parhau swyddogaeth yr hen faledwyr stryd a ffair. Mae rhai o'i ganeuon serch bellach yn ganeuon gwerin ein hoes. Yn ei ganeuon dychan, mae'n pontio Jac Glan y Gors a Harri Webb. Mae'n oesol ac yn gyfoes yr un pryd.

Yn y gyfrol hon mae'n datgelu'r hanesion y tu ôl i gyfansoddi nifer o'i ganeuon, rhai'n adnabyddus, eraill yn llai cyfarwydd, Dioddefodd o'i unplygrwydd fel Cymro ac nid yw'n hepgor ambell awr ddu yn ei fywyd. Mae'i onestrwydd yn disgleirio drwy'r cyfan. O bori drwy'r penodau dadlennol hyn cewch ail-fyw’r caneuon yn ogystal â darllen rhwng y llinellau.

£8.00 -



Code(s)Rhifnod: 9781845278014
9781845278014

You may also like .....Falle hoffech chi .....