Rhys Meirion, Yn d'oed a d'amser


 

Tracks -

01. Da Ni Yna i Chdi

02. Thomas Richards

03. Ti’m yn Byw er eu Mwyn

04. Fel Haul a Machlud

05. Tra Ti’n Dileu dy Hanas.






 

 

 

Mae Rhys Meirion wedi cael gwireddu breuddwyd – ’sgwennu, recordio a rhyddhau EP o’i ganeuon ei hun, a’r rheiny mewn genre roc, blŵs a baled. 

Rai blynyddoedd yn ôl, teimlodd y canwr clasurol a’r cyflwynydd teledu a radio fod yna rywbeth ar goll o ran ei brofiadau cerddorol. “’Dwi wedi bod mor lwcus o fod wedi cael profiadau anhygoel hyd yma”, meddai Rhys, “o fod y prifathro ieuengaf erioed yn y wlad, i gael fy nerbyn ar gwrs Opera y Guildhall School of Music heb unrhyw gymhwyster cerdd blaenorol, a mynd yn syth yn brif denor gyda Opera Cenedlaethol Lloegr. Ges i rôls fy mreuddwydion - Rodolfo (La Boheme) Alfredo (La Traviata) Y Dug (Rigoletto) Ernani, Tamino (Magic Flute) Nemorino (L’elesir D’amore) a llawer mwy. 'Dwi wedi cael perfformio fel unawdydd mewn llefydd anhygoel – Carneigie Hall (Efrog Newydd) Tŷ Opera Sydney, Y Coliseum, Neuadd Albert, Royal Festival Hall, Queen Elizabeth Hall (Llundain), Glyndebourne a Canolfan y Mileniwm.” 

Ond er hyn, ’roedd Rhys yn teimlo bod ’na le gwag a rhywbeth arall i’w gyflawni yn gerddorol. Wedi anogaeth gan Lleuwen Steffan tra’n ffilmio cyfres Deuawdau Rhys Meirion yn 2017, penderfynodd Rhys fynd amdani ac arbrofi, am y tro cyntaf erioed, efo cyfansoddi caneuon. Prynodd gitâr acwstig, ac yn ddiweddarach, wedi gwrando ar yr Eidales, Debora Morgante, yn perfformio mor wych ar y gitâr ar Canu Gyda fy Arwr, prynodd gitâr drydan, a dysgu nifer o gordiau. Yn ôl Rhys, “’dwi wedi bod yn ffan mawr ers blynyddoedd o chwaraewyr gwych yn y byd blŵs a roc, yn arbennig felly, Stevie Ray Vaughan, ac, wrth gwrs, Mike Peters, The Alarm. Erbyn cyfnod y Gwanwyn, 2022, roeddwn i’n gwybod mod i am gael cyd-berfformio efo Mike ar fy nghyfres Canu Gyda fy Arwr, felly dyma fynd ati o ddifri i ddatblygu fy sgliiau ar y gitâr.” Perfformiodd y ddau y gân ‘Cariad, Gobaith a Nerth’, a’i rhyddhau fel sengl elusennol, gyda Rhys yn serennu ar y gitâr drydan. 

Erbyn Awst 2023, roedd Rhys wedi troi ei garej yn stiwdio, wedi cyfansoddi pum cân wreiddiol ac wrthi’n recordio ei lais ei hun, lleisiau cefndir Nia, ei wraig, Elan ac Erin, ei ddwy ferch ac Osian, y mab, ac am y tro cyntaf erioed roedd Rhys yn chwarae’r allweddellau a’r gitâr fas a’r gitâr drydan ar bob trac. Yna yn Stiwdio Sain, cael cyfraniadau cerddorol gan Osian Huw Williams (drymiau), Aled Wyn Hughes (bas) a’r pianydd byd enwog, Morris Pleasure. “’Dwi mor lwcus o gael dau mor brofiadol ac amryddawn ac Osian ac Aled i’m harwain ac mi ges i’r anrhydedd mwyaf hefyd o gael neb llai na fy nghyfaill Mo Pleasure i chwarae’r piano a’r allweddellau ar y gân ‘Ti’m yn byw er eu mwyn’.” Mae Mo Pleasure yn un o gerddorion amlycaf y byd ac wedi chwarae ym mandiau Michael Jackson, Janet Jackson a Bette Midler, ac wedi bod yn gyfarwyddwr cerdd neb llai na Earth Wind and Fire am dros bymtheng mlynedd.

 

Traciau -

01. Da Ni Yna i Chdi

02. Thomas Richards

03. Ti’m yn Byw er eu Mwyn

04. Fel Haul a Machlud

05. Tra Ti’n Dileu dy Hanas.

£6.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886286129
SAIN SCD2861

You may also like .....Falle hoffech chi .....