Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Llinos Mair.
Series: Cyfres Wenfro.
Part of a lively educational resource about recycling creatively for pupils in the Foundation Phase. Everyone is preparing to go to the fancy dress party on the beach, but they are disappointed when they see that oil has spilled from a tanker endangering life at the seaside.
Awdur: Llinos Mair.
Cyfres: Cyfres Wenfro.
Rhan o gyfres hwyliog i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen am y byd gwyrdd ac am ailgylchu yn greadigol. Mae pawb yn paratoi i fynd i barti gwisg ffansi ar y traeth, ond siom sy'n eu haros pan welant fod olew wedi gollwng o long fawr gan niweidio bywyd glan môr.
Mae Mamgu Iet-wen yn dipyn o gymeriad, ac mae ei hwyrion, Owen ac Olwen, yn cael anturiaethau diddorol iawn yn ei chwmni. Mae hi wrth ei bodd yn eu cyflwyno i draddodiadau Cymru a'i syniadau am sut i gadw'r byd yn wyrdd ac ailgylchu yn greadigol – fel y byddai pobol Cymru yn ei wneud yn naturiol slawer dydd. Mae'r straeon yn ddifyr ac yn llawn dychymyg – ac yn berffaith ar gyfer y dyhead sydd nawr i fyw bywyd mwy gwyrdd. Ynddyn nhw, cawn gwrdd â phob math o gymeriadau annisgwyl, o Bwgi Bo, y bwgan brain, i Goleuwen, y chwyddwydr hud.
Mae cyfres Wenfro yn cynnwys 6 teitl ac adnoddau dysgu heb eu hail. Dyma becyn anhygoel o gyffrous i blant cynradd o 5 i 7 oed. Ei ffocws yw dysgu mewn ffyrdd hwyliog am y byd gwyrdd ac ailgylchu yn greadigol – a hynny trwy gyfrwng llyfrau wedi eu dylunio'n fywiog gan yr awdur, Llinos Mair. Mae ei syniadau am bethau i'w gwneud i gadw'r byd yn wyrdd yn pefrio gyda gwreiddioldeb.