Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
This is Meinir Gwilym’s fifth solo album, with a career spanning over 20 years her true and honest songs have an ever popular appeal and her live performances always seem to replenish the soul whilst reaching the heart.
‘Caneuon Tyn yr Hendy’ (The Songs of Tyn yr Hendy) features 8 brand new songs and one bonus track, which is her latest single, ‘Goriad’. Meinir’s talent as a poet and musician once again shines on this album of songs which have all been composed during 2023 and recorded in a short space of time during November 2023.
“I have never recorded an album in such a short period of time”, says Meinir, “three weeks in all. It’s a varied collection of songs, and they have all grown naturally without any planning regarding style and genre. They vary from ballads to nostalgic 90s pop, to a scream of a song such as ‘Chwarter i Hanner’ (Quarter to Midnight). I’m looking forward to hearing the response to the album. I’m just thankful for the chance to write it.”
Tracks -
01. Waliau
02. Yr Enfys a'r Frân
03. Charter i Hanner
04. Tân
05. Dwi'm yn Cofio
06. Rew di Ranno
07. Chwarter i Hanner (Demo)
08. Hon yw 'Mharadwys i
09. Goriad.
Dyma bumed albym unigol Meinir Gwilym gyda’i gyrfa canu a recordio yn ymestyn yn ôl dros ugain mlynedd mae ei chaneuon gwreiddiol gonest ac apelgar wedi hen ennill eu plwyf a’i pherfformiadau byw niferus yn adnewyddu’r enaid ac yn cyffwrdd y galon.
Mae ‘Caneuon Tyn yr Hendy’ yn cynnwys 8 cân newydd sbon a thrac bonws, sef ei sengl ddiweddaraf, ‘Goriad’. Yn gasgliad amrywiol o ganeuon, mae dawn Meinir fel bardd a cherddor unwaith eto yn serennu a’r cyfan wedi tyfu’n naturiol dros gyfnod yn ystod eleni a’i recordio mewn cyfnod byr fis Tachwedd 2023.
“Dydw i erioed wedi recordio albym mewn cyn lleied o amser,” meddai Meinir, “tair wythnos ella o’r dechrau i’r diwedd. Mae o’n gasgliad sy’n mynd i bob man o ran arddullia cerddorol. Dwi heb guradu’r caneuon mewn unrhyw ffordd, nac ymdrechu i’w caethiwo nhw mewn bocs o ‘genre’. Ma nhw wedi cael ymddangos a thyfu sut bynnag oedd yn siwtio. Ma’ nhw’n mynd o faledi i bop nostalgic 90au, i sgrech o gân fatha ‘Chwarter i Hanner’. Gawn ni weld sut ymateb geith yr albym. Ond dwi’n diolch am y fraint o gael ei ysgrifennu.”
Traciau -
01. Waliau
02. Yr Enfys a'r Frân
03. Charter i Hanner
04. Tân
05. Dwi'm yn Cofio
06. Rew di Ranno
07. Chwarter i Hanner (Demo)
08. Hon yw 'Mharadwys i
09. Goriad.