Maharishi, Plan B

Maharishi was formed by Rich Durrell, Euron Jones and Gwilym Davies whilst they all studied at Bangor University in 1998.

Over the years several musicians have played with the three original members - Rhodri (Pwdin) Evans played the keyboards for the band whilst at University, Eurig Jones was the original drummer but left fairly soon after forming the band that led the way for Rhydwen Mitchel to take his place for a few years. When releasing this CD, they were on their fourth drummer in 7 years - Dion Hughes was the third drummer and the fourth and present drummer is Danny Morrison!

Tracks -

01 - Laura Lloyd

02 - Poultry in motion

03 - Deli Shelley

04 - Jenny wants love

05 - Domb

06 - Jaff

07 - Somewhere new

08 - Baedd Caerdydd

09 - Mind says sun

10 - Codadyffon

11 - When's your husband coming home?

12 - Ofn neidio.

 

 

Dechreuodd y grwp Maharishi yn wreiddiol wrth i Rich Durrell, Euron Jones a Gwilym Davies gyfarfod yn y Coleg ym Mangor yn 1998. Bu Rhodri (Pwdin) Evans yn chwarae'r allweddellau am gyfnod o tua dwy flynedd, a phan yn rhyddhau y CD yma, roedd y band bellach ar eu pedwerydd drymar mewn 7 mlynedd sef Danny Morrison. Gadawodd y drymar gwreiddiol Eurig Jones yn fuan ar ôl sefydlu’r band a daeth Rhydwen Mitchell i gymryd ei le. Yn ystod y cyfnod hwn gyda Mitch recordiwyd dau albwm rhwng 1998 a 1999. Y cyntaf oedd Stafell Llawn Mwg a gafodd yr enw ar ôl gig myglyd ym Mhorthmadog pan lanwodd yr ystafell gyda mwg gwyn wedi i’r peiriant mwg sticio gan achosi panic yn y gynulleidfa. Recordiwyd a chynhyrchwyd Stafell Llawn Mwg gyda Les Morrison yn stiwdio SAIN, Llandwrog. Yn sgil yr albwm enillodd Maharishi wobr 'Band y Flwyddyn' yng ngwobrau roc a pop Radio Cymru 2000. Enillodd y gan ‘Ty ar y Mynydd’ oddi ar yr albwm brif wobr 'Mawredd Mawr' Radio Cymru yn 2003.

Erbyn recordio’r ail albwm roedd Maharishi yn enw cyfarwydd yn y sin roc Gymraeg. Ond wrth i amser yn y coleg ddod i derfyn, gadawodd Mitch y drymar ynghanol recordio'r ail albwm ' Merry-go-round'. Recordiwyd hon mewn stiwdio newydd yn Waunfawr ger Caernarfon gyda Les Morrison a Sam Durrant. Yn sgil y caneuon Saesneg ar 'Merry-go-round' cafodd Maharishi eu noddi gan y cwmni dillad mynydda 'Stone Monkey' a thrwy’r cwmni hwn cawsant gigs yn Llundain. Wrth gigio a hyrwyddo’r ail albwm, ymunodd y drymiwr roc caled Dion Hughes o Fethesda i’r band. Yn ystod y cyfnod yma symudodd y band lawr i Gaerdydd a recordiwyd yr EP 'Keep your ears to the Ground' yn ‘Le Mons’ Casnewydd ac yn stiwdio SAIN, Llandwrog gyda’r cynhyrchydd Mark Roberts gynt o Catatonia. Hefyd ymunodd Danny Morrison i’r band fel y pedwerydd drymar! Dwy flynedd yn ddiweddarach mae'r band newydd orffen eu 3ydd albym sef ‘Plan B’.

Traciau -

01 - Laura Lloyd

02 - Poultry in motion

03 - Deli Shelley

04 - Jenny wants love

05 - Domb

06 - Jaff

07 - Somewhere new

08 - Baedd Caerdydd

09 - Mind says sun

10 - Codadyffon

11 - When's your husband coming home?

12 - Ofn neidio.

£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886010328
CRAI CD103

You may also like .....Falle hoffech chi .....