Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Awdur: Simon Chandler.
Mae Katja, merch ifanc o'r Almaen, yn darganfod llythyr yn y Gymraeg a anfonwyd i'w hen, hen daid gan gyfaill o Gymro wrth fynd drwy bapurau ei mam. Er mwyn ceisio darganfod mwy, penderfyna ymweld â Chymru ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Wrth i'r llythyr ei harwain i ardal chwarelyddol Blaenau Ffestiniog daw Katja i ddysgu mwy am fywyd - a chyfrinachau - ei theulu.