Llanast Llwyr

Author: Llinos Mair.

Series: Cyfres Wenfro.

Part of a lively educational resource about recycling creatively for pupils in the Foundation Phase. It's early May, and Mam-gu Iet-wen and her friends spend the day clearing and recycling rubbish which has been left on Dôl-wen field.

 

Awdur: Llinos Mair.

Cyfres: Cyfres Wenfro.

Rhan o gyfres hwyliog i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen am y byd gwyrdd ac am ailgylchu yn greadigol. Mae'n ddechrau mis Mai, ac mae Mamgu Iet-wen a'i ffrindiau yn treulio'r diwrnod yn casglu ac yn ailgylchu sbwriel a adawyd ar gae Dôl-wen.

 

Mae Mamgu Iet-wen yn dipyn o gymeriad, ac mae ei hwyrion, Owen ac Olwen, yn cael anturiaethau diddorol iawn yn ei chwmni. Mae hi wrth ei bodd yn eu cyflwyno i draddodiadau Cymru a'i syniadau am sut i gadw'r byd yn wyrdd ac ailgylchu yn greadigol – fel y byddai pobol Cymru yn ei wneud yn naturiol slawer dydd. Mae'r straeon yn ddifyr ac yn llawn dychymyg – ac yn berffaith ar gyfer y dyhead sydd nawr i fyw bywyd mwy gwyrdd. Ynddyn nhw, cawn gwrdd â phob math o gymeriadau annisgwyl, o Bwgi Bo, y bwgan brain, i Goleuwen, y chwyddwydr hud.
Mae cyfres Wenfro yn cynnwys 6 teitl ac adnoddau dysgu heb eu hail. Dyma becyn anhygoel o gyffrous i blant cynradd o 5 i 7 oed. Ei ffocws yw dysgu mewn ffyrdd hwyliog am y byd gwyrdd ac ailgylchu yn greadigol – a hynny trwy gyfrwng llyfrau wedi eu dylunio'n fywiog gan yr awdur, Llinos Mair. Mae ei syniadau am bethau i'w gwneud i gadw'r byd yn wyrdd yn pefrio gyda gwreiddioldeb.

£2.00 - £4.99



Code(s)Rhifnod: 9781848518568

You may also like .....Falle hoffech chi .....