Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Singer-songwriter, TV producer/director/presenter and actor! These are some of the virtues of Huw Chiswell who was born and bread in Cwmtawe near Swansea. He was educated at Pant-teg primary school, Ystalyfera Comprehensive School and graduated in Welsh from Aberystwyth and Swansea Universities.
In his ‘rock ‘n roll days’, Huw was a member of two bands – Y Crach and Y Trwynau Coch, and he composed the classic song Dwylo Dros y Môr to raise money for charities in Ethiopia. In the 1980s he played the role of Carlos the hunk in the film Ibiza! Ibiza!
All his albums include elements that are always eminent in his voice and compositions: beautiful ballads and imaginative arrangements with an ear for melodies and straightforward words. His first collection ‘Rhywbeth o’i le’ (1986) included memorable songs such as ‘Parti’r Ysbrydion’ and ‘Y Cwm’. It was followed by ‘Rhywun yn gadael’ (1989) and a private album ‘Cameo Man’ in 1993. ‘Dere Nawr’ was released on the SAIN label in 2003 with a Best of… album in 2005.
His new album ‘Neges Dawel’ is a collection that reaches the soul, with a poignant and personal message that he wrote during the last year. It was produced and recorded by Richard Dunn at his studios in Llandaff, Cardiff.
Tracks -
01 - Sylweddolais i
02 - Mewn Llun
03 - Dydd Gwyl Dewi
04 - Dall
05 - Cân Joe
06 - Dy Garu Di Fel Hyn
07 - Manon
08 - Y Gwir
09 - Rhoddion Prin
10 - Neges.
Canwr-gyfansoddwr,cynhyrchydd/cyfarwyddwr/cyflwynydd teledu ac actor. Dyna rai o rinweddau amlycaf y gwr a aned yng Nghwmtawe. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pant-Teg, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe gan raddio yn y Gymraeg.
Roedd yn aelod o'r bandiau 'Y Crach' a'r 'Trwynau Coch', a fo oedd cyfansoddwr y gân elusen i Ethiopia 'Dwylo dros y môr' (1985). Bu hefyd yn actio rhan Carlos yn y ffilm Ibiza Ibiza! yn yr 80au. Roedd ei albym cyntaf 'Rhywbeth o'i le' (1986), yn cynnwys clasuron fel 'Parti'r Ysbrydion', a’r 'Cwm'. Dilynwyd hwnnw gan 'Rhywun yn gadael' (1989), a gynhwysai’r gân anfawrol 'Tatws'. Yna, rhyddhawyd recordiad preifat ganddo sef 'Cameo Man' (1993). Ar ôl seibiant o recordio, rhyddhawyd 'Dere Nawr' (2003). Roedd yr hen elfennau yno - ei lais cadarn swynol, baledau â threfniannau dychmygus a chlust am alaw a geiriau syml. Rhyddhawyd casgliad o’i Oreuon yn 2005.
Gyda ‘Neges Dawel’, ceir casgliad arall i gyffwrdd yr enaid, a’r cyfan wedi eu cyfansoddi (geiriau a’r gerddoriaeth) gan Huw. Caneuon personol a theimladwy iawn yw’r rhain a ysgrifennwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol, er bod dwy gân gynnar yma hefyd. Recordiwyd yn stiwdio Richard Dunn yn Llandaf Medi a Hydref 2008, gyda Richard yn chwarae’r piano/organ/acordion a chynhyrchu.
Traciau -
01 - Sylweddolais i
02 - Mewn Llun
03 - Dydd Gwyl Dewi
04 - Dall
05 - Cân Joe
06 - Dy Garu Di Fel Hyn
07 - Manon
08 - Y Gwir
09 - Rhoddion Prin
10 - Neges.