Heb eu Tebyg

Awdur: Harri Parri.

Dyma Harri Parri ar ei orau – yn cyflwyno deg portread o bobol unigryw – pobol sydd wedi torri eu cwys eu hunain mewn bywyd. Mae’r portreadau yn gymysgedd o’r hanesyddol a’r mwy diweddar.

Meddai Harri: ‘Annhebygrwydd y cymeriadau i’w gilydd, ac i bawb arall, oedd yn agor y drws. Cofnodi gwefr byw – ac ar dro ofid byw, hwyrach – deg cymeriad na fuon nhw rioed yn neb arall . . . Heb eu tebyg, meddwn i. Nid o ran doniau na gwerthoedd o angenrheidrwydd. Nid na allai hynny, hwyrach, fod o fewn eu cyrraedd. Heb eu tebyg, am ei bod hi yn debygol mai un o bob un ohonyn nhw fu ar gael.’

£9.95 -



Rhifnod: 9781913996369
9781913996369

Falle hoffech chi .....