Gyda'n Gilydd

Corau Cymru yn canu caneuon poblogaidd.

Mae i ganu corawl draddodiad cryf yng Nghymru ers y 18fed ganrif, a thyfodd y corau meibion byd-enwog o gymunedau clos y pyllau glo, y chwareli llechi a’r gweithfeydd haearn a dur. Lledodd y traddodiad gweithiol hwnnw i fyd y capel a’r clwb rygbi, gan uno dynion a merched o bob math o gefndir a gwaith.

Erbyn heddiw mae dros 200 o gorau meibion a chymysg yng Nghymru gyda nifer helaeth ohonynt yn teithio ledled y byd i berfformio a chystadlu – mae’r albym yma yn ddetholiad o ganeuon ysgafn a berfformir gan gorau cymysg, merched a meibion, ac o wrando ar y casgliad does dim amheuaeth bod canu corawl yng Nghymru yn ffynnu!

Corau : Côr Rhuthun a'r cylch, Bois y Castell, Cordydd, Lleisiau Mignedd, Côr Llangwm, Côr CF1, Côr Seiriol, Côr Bro Gwerfyl, Côr Godre'r Aran, Côr Caerdydd, Glanaethwy, Cantorion Colin Jones, Côr Gore Glas, Ysgol Glan Clwyd, Hogia'r Ddwylan, Canna, Côr Meibion Caernarfon, Côr Eifionydd, Corau Ceredigion, Côr Maelgwn, Adlais & Côr y Brythoniaid.

Traciau -

01 - Yn Llygad y Llew

02 - Gwin Beaujolais

03 - Rho Dy Olau Mwyn

04 - Dyrchefir Fi

05 - Tyrd am Dro

06 - Rho im Iesu

07 - Ceidwad y Goleudy

08 - Si Hei Lwli

09 - Nkosi Sikelel'i Afrika

10 - Mor Braf

11 - Medli o Ganeuon Ryan

12 - O Gymru

13 - Bugeilio'r Gwenith Gwyn

14 - Yr Iôr yw fy Mugail

15 - Bob Un Tro Wrth Deimlo'r Ysbryd

16 - Am Brydferthwch

17 - O Nefol Addfwyn Oen

18 - Mae'r Dydd yn Cilio

19 - Y Tangnefeddwyr

20 - Rhythm y Ddawns

21 - Mae'r Neges yn fy Nghân

22 - Gyda'n Gilydd.

£9.99 -



Rhifnod: 5016886263120
SAIN SCD2631

Falle hoffech chi .....