Gwenan Gibbard, Sidan Glas

The harpist-singer-composer’s second album, presenting a tapestry of songs and dance tunes from the Welsh folk tradition.

Her debut album, ‘Y Gwenith Gwynnaf’, released in 2006 (SAIN SCD 2504), heralded a significant new talent in the world of Welsh Folk music, and this second album will certainly consolidate her reputation. ‘Sidan Glas’ (blue silk) displays the whole range of her talents, as harpist and singer, as composer and arranger. It is an exciting collection of new, contemporary arrangements of Welsh traditional music and songs, the playing firmly rooted in the heart of the tradition, yet showing a fresh and innovative approach. Rhythmic and vibrant dance tunes and both lively and hauntingly beautiful folk songs combine to create a perfect showcase of Welsh traditional music at its best.

Joining Gwenan are several renowned instrumentalists – the guitarist Maartin Allcock (Jethro Tull, Fairport Convention, Bad Sheperds), fiddlers Stephen Rees (Crasdant) and Angharad Jenkins (Calan), flautist Dafydd Roberts (Ar Log) and percussionists Dewi Ellis Jones and Asian music scene phenomenon Kuljit Bhamra (Bend it like Beckham, Bombay Dreams), together creating a colourful tapestry of diverse musical influences whilst yet remaining true to the Welsh folk music tradition, giving prominence to the harp and voice.

Gwenan’s strength as an artist lies in the fact that she comes from the heart of the Welsh tradition and is well versed in all its aspects, both as a musician and as a musicologist in her own right, familiar with the history and background of the songs and tunes. She sings and plays therefore in complete sympathy with the tradition, but is always looking for new ways to develop and interpret it, as this album shows, with great style. She has immersed herself in the thriving folk music scene of contemporary Wales, performing extensively in Wales and beyond, at festivals such as The Edinburgh Harp Festival, The Caernarfon International Harp Festival, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada), North American Festival of Wales, Lorient Inter-Celtic Festival (Brittany), World Harp Congress (Dublin) and Celtic Connections (Glasgow). She is a regular accompanist at various Eisteddfodau, a member of Y Glerorfa (a Welsh folk orchestra) and is an exponent of the uniquely Welsh art of Cerdd Dant (singing poetry to harp accompaniment). She brings all this experience, and all these musical influences to bear on this album, as genuine and as enjoyable a piece of Welsh folk culture as you will ever hear.

Tracks -

01 - Yr Aelwyd yn yr Hafod

02 - Pibddawns Rhif Un

03 - Tros y môr

04 - Lliw gwyn rhosyn yr haf

05 - Hufen y cwrw melyn

06 - Trafeiliais y byd

07 - Y Polaca Cymreig/Dafydd Ifan Tomos/Ymdaith yr yswain

08 - Gwenno tir mawn

09 - Yr Hafren

10 - Ymdaith Gwyr Machynlleth/Jig pen Tennyn/Sponc bogel

11 - Y sgwner tri mast

12 - Hen benillion

13 - Cân lleisoniaid/Cân y droell bach

14 - Cwicstep Cwm Bach/Y bwced/Cadw twmpath

15 - Paid â deud.

 

 

Ail gasgliad disglair y delynores, y gantores a’r gyfansoddwraig o Benrhyn Llyn.

Gyda chyhoeddi “Y Gwenith Gwynnaf” (SAIN SCD 2504) yn 2006, gwelwyd fod talent newydd o bwys yn ffurfafen y byd gwerin Cymraeg, ac mae hen ddisgwyl wedi bod am yr ail albym hon gan Gwenan Gibbard. Mae’r casgliad hwn yn dangos ei doniau fel telynores, fel cantores, fel trefnydd ac hefyd fel cyfansoddwraig yn ei hawl ei hun, a’r doniau hynny’n cael eu sylweddoli i’r eithaf.Mae ‘Sidan Glas’ yn gasgliad blaengar o drefniannau newydd a chyffrous o’n caneuon a’n halawon gwerin Cymreig, gyda’r chwarae a’r canu wedi ei wreiddio’n ddwfn yng nghalon y traddodiad ac eto’n ffres a chyfoes. Yn gyfuniad perffaith o fywiogrwydd yr alawon dawns traddodiadol a’r hen benillion telyn a hiraeth a theimlad y caneuon gwerin, dyma albym sy’n arddangos amrywiaeth a chyfoeth y traddodiad gwerin Cymreig ar ei orau.

Fe glywir sawl cân ac alaw anghyfarwydd – caneuon a fu’n boblogaidd sawl blwyddyn yn ôl ac alawon heb eu cyhoeddi o blith nifer o lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol – y cyfan yn derbyn ymdriniaeth a threfniannau llawn gwreiddioldeb a newydd-deb gydag elfennau crosacennog a harmonïau atyniadol. Mae yma ganeuon ac alawon wedi eu cyfansoddi o’r newydd hefyd, yn ychwanegiad gwerthfawr i’r repertoire traddodiadol. Yn ymuno â Gwenan mae criw o gerddorion cydnabyddedig, amryddawn - y gitarydd Maartin Allcock (Jethro Tull, Fairport Convention, Bad Sheperds), y ffidlwr Stephen Rees (Crasdant), y ffliwtydd Dafydd Roberts (Ar Log), y ffidlwraig Angharad Jenkins (Calan), a Dewi Ellis Jones a’r cerddor Indiaidd Kuljit Bhamra (Bombay Dreams) ar yr offer taro. Y canlyniad yw cyfanwaith amryliw a chyfoethog sydd eto’n cadw’n driw i ysbryd ac anian y traddodiad gwerin Cymreig gan sicrhau lle blaenllaw i’r delyn a’r llais. Cryfder Gwenan fel artist yw ei bod wedi ei thrwytho ymhob agwedd o’r traddodiad Cymreig. Mae’n gyfarwydd â hanes a chefndir y caneuon a’r alawon, wedi gwneud llawer o’r ymchwil ei hun, ac yn rhan o’r traddodiad byw heddiw – yn perfformio mewn cyngherddau a gwyliau o bob math, yma yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys Gwyl Delynau Caeredin, Gwyl Delynau Caernarfon, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada), Gwyl Gymreig Gogledd America, Gwyl Ryng-Geltaidd Lorient, Cyngres Delynau’r Byd (Dulyn) a Celtic Connections (Glasgow). Mae’n cyfeilio mewn Eisteddfodau mawr a mân, yn rhan annatod o ddatblygiad cyffrous y Glerorfa (y gerddorfa werin newydd), ac yn gyfarwydd â phob cangen o’n traddodiad gwerin, gan gynnwys cerdd dant. Ar ‘Sidan Glas’ llwydda i weu yr holl agweddau hyn yn un tapestri lliwgar sy’n apelio at y pen a’r galon.

Traciau -

01 - Yr Aelwyd yn yr Hafod

02 - Pibddawns Rhif Un

03 - Tros y môr

04 - Lliw gwyn rhosyn yr haf

05 - Hufen y cwrw melyn

06 - Trafeiliais y byd

07 - Y Polaca Cymreig/Dafydd Ifan Tomos/Ymdaith yr yswain

08 - Gwenno tir mawn

09 - Yr Hafren

10 - Ymdaith Gwyr Machynlleth/Jig pen Tennyn/Sponc bogel

11 - Y sgwner tri mast

12 - Hen benillion

13 - Cân lleisoniaid/Cân y droell bach

14 - Cwicstep Cwm Bach/Y bwced/Cadw twmpath

15 - Paid â deud.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886258126
SAIN SCD2581

You may also like .....Falle hoffech chi .....