Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
England’s Prime Ministers come and go, but Geraint Lovgreen is here to stay.
And there’s no-one quite like him. No-one who can make us cry without being sentimental, no-one who can make us laugh without being cheap. And no-one who can tell it as it is without fear or favour.
If there is a prize for lyrics, give it to this album. It’s dedicated to the memory of poet and bassist Iwan Llwyd (this is the band’s first album without him), and many of the words were written by Iwan himself. The rest were composed by Geraint, Myrddin ap Dafydd and Ifor ap Glyn, the result of the travelling bardic shows they pioneered.
Sad songs (nobody sings to departed friends like Geraint), funny songs, serious ones and satirical ones, and all to the dynamic accompaniment of Enw Da’s lively collection of instruments (plus a few unexpected guests).
Even when it’s pouring down with rain, what better antidote than the sunny “Mae’r Haul Wedi Dod”, inspired by Geraint’s grandchildren and composed on the way from the playgroup? Yes, Summer is here!
Dafydd Iwan, June 2019
Tracks -
01. Mae'r Haul wedi Dod
02. Ar Daith
03. Ffarwel i Fangor Ucha
04. Y Gaucho
05. Y Dieithryn
06. Baled Mansel a Mi
07. Syrthio ar fy Mai
08. Rhedeg oddi wrth Y Maffia
09. Gwylio Guto ar y Teli
10. Hydref o Hyd
11. Ffarwelio
12. Am Fod yr Haul yn Noeth.
Mae Prif weinidogion Lloegr yn mynd a dod, ond mae Geraint Lovgreen gyda ni o hyd. A does yna neb yr un fath â fo. Neb yr un fath am dynnu dagrau heb fod yn sentimental, neb yr un fath am wneud inni chwerthin heb fod yn wirion. A neb yr un fath am ei dweud hi fel y mae (gweler ‘Gwylio Guto ar y teli’).
Os oes gwobr i gael am eiriau albwm, rhowch hi i hon. Albwm sy’n cael ei chyflwyno i gofio’r bardd a’r basydd Iwan Llwyd – a’r albwm gynta gan y band heb i Iwan fod efo nhw. Iwan ei hun sy’n gyfrifol am eiriau nifer o’r caneuon, ac mae’r gweddill gan Geraint, Myrddin ap Dafydd ac Ifor ap Glyn, rhai yn hannu o’r teithiau barddol a arloeswyd ganddyn nhw.
Y dwys (does neb yn medru canu i gyfeillion ymadawedig fel Geraint) a’r digri, y difrifol a’r dychanol, a’r cyfan i gyfeiliant y casgliad arferol o offerynnau afieithus gan yr Enw Da (ac ambell i gyfaill newydd annisgwyl).
Hyd yn oed os yw hi’n tywallt y glaw tu allan, be well na ‘Mae’r Haul Wedi Dod’, cân a ysbrydolwyd gan wyrion Geraint, ac a gyfansoddwyd ar y ffordd o’r Feithrinfa? Ydi, mae’r haf wedi dod!!
Dafydd Iwan, Mehefin 2019
Traciau -
01. Mae'r Haul wedi Dod
02. Ar Daith
03. Ffarwel i Fangor Ucha
04. Y Gaucho
05. Y Dieithryn
06. Baled Mansel a Mi
07. Syrthio ar fy Mai
08. Rhedeg oddi wrth Y Maffia
09. Gwylio Guto ar y Teli
10. Hydref o Hyd
11. Ffarwelio
12. Am Fod yr Haul yn Noeth.