Fflur Dafydd, Ffydd Gobaith Cariad

Following her success in 2010, when she was named BBC Radio Cymru Female Artist of the Year, Fflur Dafydd is back, with a brand new sound. “Faith Hope Love,” is the fourth album from the Carmarthen-based singer-songwriter, and is a folk-inspired, melodic album, influenced by the likes of John Martyn, James Taylor, and Nanci Griffith, and is described as a “musical family tree,” which pays tribute to many influential people in the singer’s life.

The songs include moving songs written in memory of her grandparents, as well as tributes to more well-known figures such as Ray Gravell, the rugby player and broadcaster, who was a great influence on Fflur. There are several instances of songs written for special occasions, such as Fflur’s unique take on the reading from St. Paul’s letter to the Corinthians. She has also collaborated with the poet Owen Sheers, turning one of his poems into a powerful ballad. And for the first time, Fflur has provided parallel texts in English for the listener to follow in the booklet. These translations also stand as songs in their own right, which is perhaps no surprise considering Fflur Dafydd has been awarded many literary prizes for her novels, including the Prose Medal for Literature and the Oxfam Hay Emerging Writer of the Year Prize in 2009. “I think it’s very important to give people a second take on the song in translation,” Dafydd explains. “I’ve done the same thing with my novels to some extent, rewriting a Welsh-language novel in English with a different audience in mind, and I find that different languages bring out a different quality, or even a different theme in a piece of work, which make the versions very interesting to compare, and of course give you double the options when it comes to performing live.” Despite being pregnant with her second child, Dafydd is busier than ever, and will be launching “Faith Hope Love” at the Hay Festival, in a special gig with Cerys Matthews at the Hay Castle on June 7th, as well as performing in two other events at Hay as a novelist.

Tracks –

1: Rhoces

2: Ffydd Gobaith Cariad

3: Ray o'r Mynydd

4: Y Ferch sy'n licio'r Gaeaf

5: Martha Llwyd

6: Frank A Moira

7: Y Porffor Hwn

8: Brawd Bach

9: Elfyn

10: Rachael Myra

 

 

Yn dilyn ei llwyddiant yn 2010, pan gipiodd deitl Artist Benywaidd y Flwyddyn yng ngwobrau RAP Radio Cymru, mae Fflur Dafydd yn ôl, gyda albym o fath gwahanol iawn. Mae “Ffydd Gobaith Cariad,” yn gasgliad o ganeuon myfyriol, hardd, a thelynegol, sy’n debycach i albym gyntaf y gantores na’r caneuon pop a gawsom ganddi dros y blynyddoedd diwethaf.

Thema’r albym ydy pobl – ac mae’r gantores yn ei ddisgrifio fel math o “goeden deuluol ar gân” sy’n ein cyflwyno i gymeriadau lliwgar a dylanwadol ei bywyd. “Ers bron i ddegawd bellach dwi wedi bod yn ‘sgwennu caneuon er cof am bobol pwysig yn fy mywyd, ac i gofnodi achlysuron penodol, ond dydyn nhw ddim wedi ffeindio eu lle ar albym tan nawr,” esbonia Fflur. “Ond erbyn hyn, gan eu bod wedi cael eu perfformio gymaint, mae’r caneuon yma wedi cael amser i aeddfedu ac esblygu, ac mae’n teimlo fel yr amser iawn i’w rhyddhau nhw i’r byd, gan eu bod yn perthyn i’w gilydd rhywsut.” Ymhlith y cymeriadau sy’n cael sylw ar yr albym y mae aelodau o deulu Fflur – o’i merch Beca i’w thad-cu a’i mam-gu, Elfyn a Rachel Myra. Ond mae ‘na hefyd ganeuon am bobl yr ydym oll yn eu hadnabod, megis y cawr o Fynydd y Garreg, Ray Gravell, a fu’n ddylanwad mawr ar Fflur.

Rydym hefyd yn dod i adnabod ambell i arwres goll fel Martha Llwyd, emynyddes a bardd gwlad a oedd yn cael ei hadnabod fel ‘Ann Griffiths Sir Gâr’, ac yn cael ein hatgoffa o ambell gymeriad ffuglennol fel Frank a Moira, yn fersiwn acwstig trawiadol Fflur o gân dorcalonnus Huw Chiswell. Mae hi hefyd yn canu deuawd am y tro cyntaf – a hynny gyda’r canwr-gyfansoddwr Gildas. Mae'n parhau i gigio ac yn hyrwyddo’r albym yma mewn cyfres o gigs cyffrous ar hyd a lled Cymru. Pinacl y daith fydd cefnogi Cerys Matthews yng Ngŵyl y Gelli, ac fe fydd hi hefyd yn hyrwyddo ei nofel ddiweddaraf, The White Trail yno, yn ogystal â chynnal sesiwn ar fod yn artist dwyieithiog yng Nghymru. Am y tro cyntaf mae Fflur hefyd wedi darparu cyfeithiadau o bob un o’r caneuon yn llyfryn yr albym, fel bod modd i gynulleidfa di-Gymraeg ddilyn y caneuon wrth iddynt wrando.

Traciau –

1: Rhoces

2: Ffydd Gobaith Cariad

3: Ray o'r Mynydd

4: Y Ferch sy'n licio'r Gaeaf

5: Martha Llwyd

6: Frank A Moira

7: Y Porffor Hwn

8: Brawd Bach

9: Elfyn

10: Rachael Myra

£4.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5055162100360
RASAL CD036

You may also like .....Falle hoffech chi .....