Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Cyflwynwyd Elin Fflur i’r byd ar record yn y flwyddyn 2002 yn sgil y Moniars ac Arfon Wyn, ac Arfon oedd yn gyfrifol am y gân a wnaeth Elin yn enwog – “Harbwr Diogel”. Yn fuan iawn, drwy gyfrwng ei hymddangosiadau byw ac ar deledu, gwelwyd fod yma dalent newydd arbennig iawn. Nid yn unig yr oedd gan Elin Fflur bresenoldeb llwyfan anhygoel, ond yr oedd ei gallu lleisiol yn medru cwmpasu sawl math o gerddoriaeth, yn anwylo cân serch draddodiadol un munud, ac yn ein synnu â phwer soniarus ei llais y munud nesa mewn clamp o gân roc. At hyn ychwanegwch ei greddf gerddorol naturiol, ei dawn fel cyfansoddwraig a’i phersonoliaeth heulog, ac y mae gennych rysait berffaith am wledd! Mwynhewch y casgliad hwn o ddeunaw o’i chaneuon enwocaf.
Traciau -
01 - Pan Ddaw'r Haul
02 - Paid a Cau y Drws
03 - Petha Ddim 'Run Fath
04 - Ysbryd Efnisien
05 - Harbwr Diogel
06 - Symud Ymlaen
07 - Dim Gair
08 - Arfau Byw
09 - Meillionen
10 - Ar Lan y Môr
11 - Cymer Fi, Achub Fi
12 - Papillon
13 - Gwên
14 - Eiliad Fach
15 - Mae'r Ysbryd yn Troi
16 - Tybed Lle mae Hi Heno
17 - Angel
18 - Y Llwybr Lawr i'r Dyffryn