Derwyddon Dr Gonzo, Stonk!

Dig out your fancy dress and get your dancing shoes for one of the funkiest albums to hit Wales - the debut album from the fantastic Derwyddon Dr Gonzo. Stonk promises to be super fresh,super funky and fandabidozi!

After their success at the BBC Radio Cymru Rock and Pop Awards, including winning the best live act, Derwyddon Dr Gonzo feel there’s a call for a party – and that celebration comes in the form of an album. Stonk is mad and funky showcasing 13 tracks, each one owning its right to stand proudly amongst the rest.

Many themes flow through the album creating an intense and bonkers feeling. KO and Madrach, heard before on a previous single release has an upbeat feel and in contradiction Bwthyn offers a mix of peculiar sexy disco and tender vocals by Gwyneth Glyn, a guest vocalist on the track. Raptil and What Goes Around are the band’s favourites, Ifan, the main vocalist, said, “By comparing to our previous single releases, these tracks are funkier and darker.

A crew from London University are guest vocalists on What Goes Around and offer jollity and lunacy into the song.” Besides Gwyneth Glyn and friends from London, many other guest vocalists make an appearance on the album, including Nobsta Nuts from the Headcase Ladz on No Pants Dance, Miriam Isaac on Shampw and the beatboxer and rapper Ed Holden (Mr Phormula) on KO.

The band’s drummer, Cai Dyfan, said, “Collaborating with talented artists such as Gwyneth and Ed amongst others is a privilege to us and the partnership gives our music a new dimension. It’s also a nice surprise to the listener!” Their first two singles were recorded by Dave Wrench at Bryn Derwen Studios in north Wales and the rest of the album was recorded by Sir Doufus Styles at the Wings for Jesus Studio in Cardiff. Derwyddon Dr Gonzo captivate audiences wherever they go and perform a show that is a clever mix of funk, hip hop, jazz and electronica.

Tracks -

1: Dangos dy Wiwar

2: K.O.

3: Llacia dy Drôns

4: No Pants Dance

5: Chaviach

6: Raptil

7: Don't Stop

8: Salsa Talsarna

9: Bwthyn

10: Tomi yn y Goedwig

11: Shampw

12: What Goes Around

13: Madrach.

 

 

Stonkiwch yma NAWR! Ewch i nôl eich gwisg ffansi a dewch o hyd i’ch ‘sgidiau dawnsio! Mae COPA’n falch o gyflwyno un o’r albyms mwyaf ffynci a welodd y Sîn Roc Gymraeg!

Mae Stonk!, albwm cyntaf Derwyddon Dr Gonzo, yn argoeli i fod yn siwper ffres, siwper ffynci a ffandabidosi! Wedi iddynt ennill nifer o wobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru gan gynnwys Band Byw Gorau Cymru, mae Derwyddon Dr Gonzo yn teimlo fod yna achos am barti – a hynny mewn ffurf albwm.

Mae Stonk! yn wallgof ac yn ffynci gan gynnig 13 o draciau, bob un ohonynt yn berl sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Mae nifer o themau yn llifo drwy’r albym gan greu ymdeimlad cynhyrfus a boncyrs. Mae KO a Madrach, a glywyd ar sengl a rhyddhawyd eisoes, yn cynnig ymdeimlad ‘upbeat’ iawn ac mewn gwrthgyferbyniad mae Bwthyn yn cynnig cymysgedd o ddisgo rhywiol rhyfedd a llais tyner Gwyneth Glyn fel gwestai ar y gân.

Mae Raptil a What Goes Around yn ffefrynnau i’r band, dywedodd Ifan, prif leisydd y grwp, “Mae’r rhain yn dipyn mwy ffynci a thywyll i’w gymharu efo'r senglau diwethaf. Mae criw o Goleg Llundain yn westeion ar What Goes Around ac yn rhoi digon o hwyl a gwallgofrwydd i fewn i’r gân.” Ynghyd â’r uchod mae nifer o westeion eraill yn ymddangos ar yr albwm gan gynnwys Nobsta Nuts o’r Headcase Ladz ar No Pants Dance, Miriam Isaac ar Shampw a’r bitbocsiwr a’r rapiwr Ed Holden ar KO.

Dywedodd Cai Dyfan, drymiwr y band, “Mae cydweithio efo pobl mor dalentog â Gwyneth Glyn ac Ed Holden (Mr.Phormula) ymysg eraill wedi bod yn fraint, mae’n rhoi dimensiwn arall i'r gerddoriaeth, ac mae’n sypreis bach neis i bwy bynnag sy'n gwrando ar y trac!” Recordiwyd y ddwy sengl gyntaf gyda Dave Wrench yn Stiwdio Bryn Derwen ar fryniau Bethesda tra recordiwyd y gweddill gan Sir Doufus Styles yn Wings for Jesus, Caerdydd. Maent yn denu cynulleidfaoedd lle bynnag yr aent ac yn perfformio setiau sy’n gymysgedd clyfar o ffync, hip hop, jas ac electronica. 

Traciau -

1: Dangos dy Wiwar

2: K.O.

3: Llacia dy Drôns

4: No Pants Dance

5: Chaviach

6: Raptil

7: Don't Stop

8: Salsa Talsarna

9: Bwthyn

10: Tomi yn y Goedwig

11: Shampw

12: What Goes Around

13: Madrach.

Sold OutAllan o Stoc

You may also like .....Falle hoffech chi .....