Dawn Ymadrodd - Taith Drwy'r Iaith

Author: Mary Wiliam.

A collection of entertaining and funny, satirical and disparaging Welsh idioms and phrases from all over Wales.

 

Awdur: Mary Wiliam

Casgliad o ymadroddion a diarhebion difyr, doniol, dychanol a difrïol o Fôn i Fynwy ac o Ben Llŷn i Bont-siân.

 

Daw Mary Wiliam o Sir Fynwy yn wreiddiol. Aeth i'r ysgol yn Hengoed ac i'r brifysgol yng Nghaerdydd. Hon yw'r wythfed gyfrol ganddi. Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, ac mae ganddynt ddau o blant.

Cyfoeth a chyfaredd y Gymraeg rhwng dau glawr sydd yn y gyfrol hon. Ceir yma gasgliad o ymadroddion a diarhebion difyr, doniol, dychanol a difrïol o Fôn i Fynwy ac o Ben Llyn i Bont-siân. Bu Mary Wiliam yn cofnodi ein hiaith lafar ers dros ddeugain mlynedd, ac mae ei brwdfrydedd yn heintus.


Mae pynciau mawr bywyd yma i gyd – teulu, gwaith, caru, cecru, arian ac angau – ac yn dod yn fyw drwy ein gwahanol ffyrdd o'u mynegi. Mae llawer o resymau pam rydyn ni'n trysori'r Gymraeg, ac mae cynnwys y llyfr hwn yn eu plith. Cymerwch gip hwnt ac yma neu darllenwch y llyfr ar ei hyd – byddwch yn siŵr o'i fwynhau a dod yn fwy toreithiog eich sgwrs hefyd.

 

£7.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781785621604
9781785621604

You may also like .....Falle hoffech chi .....