Cyfrinach Nana Crwca

Author: David Walliams; Welsh Adaptation: Gruffudd Antur.

Our hero Ben is bored beyond belief after he is made to stay at his grandma's house. She's the boringest grandma ever: all she wants to do is to play Scrabble, and eat cabbage soup. But Ben doesn't know that his grandma was once an international jewel thief. A Welsh adaptation of Gangsta Granny.

 

 

Awdur: David Walliams; Addasiad Cymraeg: Gruffudd Antur.

Mae'n gas gan Ben aros yn nhŷ Nana Crwca bob nos Wener. Mae hi'n nain gyffredin ym mhob ffordd: gwallt gwyn, dannedd gosod, ac yn drewi o fresych. Ond mae ganddi gyfrinach arbennig iawn. Ychydig a wyddai Ben fod ei nain oedrannus yn lleidr gemwaith rhyngwladol ... Addasiad Cymraeg o Gangsta Granny.

 

Mae hen bobl yn bethau diflas, on'd ydyn? Mae nhw’n drewi o fresych hefyd ac mae eu penolau nhw’n gwichian. Dyna farn Ben yn y nofel hon gan y digrifwr enwog David Walliams. Mae hi eisoes wedi bod yn llwyddiant yn Saesneg ac ar y sgrin, ac mae hi’n gweithio gystal bob tamaid yn Gymraeg hefyd.

Mae Ben yn gyndyn iawn o fynd i dŷ ei Nain. Mae o’n casau arogl ei nain ac yn casáu chwarae Scrabble. Dydi Mam Ben ddim yn or-hoff o fynd i'w thŷ chwaith, ond mae’n rhaid i Ben fynd yno oherwydd does dim byd yn rhwystro'i rieni rhag mynd i'w sesiwn ‘Dawnsio gyda’r Sêr’. Yr unig beth y mae Ben yn ei hoffi am Nana ydi ei llyfrau gangsters a maffia, ac ymhen hir a hwyr, mae’n dod yn eithaf amlwg nad ydi Nana’n angel o bell ffordd.

Dydi hi ddim yn eich synnu fod y nofel hon yn llawn o hiwmor hyd at y diweddglo sydd yn dorcalonnus ac eto yn driw i’r stori yr un pryd. Trwy ei darllen, mae’n eithaf amlwg nad ydi hen bobl mor ddiflas â hynny – ceir hanesion yma am yr heddlu, am ei Mawrhydi’r Frenhines ac am blymio i ddyfnderoedd afon Tafwys. Mmm ... ydy eich Nana chi’n giamstar o gangster hefyd, yn slei bach? Dach chi byth yn gwybod ...

Llinos Griffin

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.  

£6.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781909666948
9781909666948

You may also like .....Falle hoffech chi .....