Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Siân Lewis.
Series: Cyfres Straeon Bywyd Cymru: 5.
A book in a series that looks at different periods/backgrounds in Welsh history, on which the story is based; this story is about the quarryman's life. Suitable for readers aged 9-11 years.
Awdur: Siân Lewis.
Cyfres: Cyfres Straeon Bywyd Cymru: 5.
Cyfrol mewn cyfres sy'n edrych ar wahanol gyfnodau/gefndiroedd o hanes Cymru ac yn cyflwyno stori yn seiliedig ar hynny; y mae'r stori hon yn ymwneud â bywyd y chwarelwr. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed.
Cyfrol yn y gyfres ‘Straeon Bywyd Cymru’ yw Cwymp yn y Chwarel, cyfres sy’n rhoi cipolwg dychmygus i ni ar ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru trwy lygaid plentyn.
Jac Edwards yw’r cymeriad sy’n rhannu ei fywyd a’i anturiaethau fel chwarelwr ifanc gyda ni. Cawn gyfle i brofi a gwerthfawrogi caledi a chreulondeb gwaith mewn chwarel lechi, yn ogystal â’r teyrngarwch a’r frawdoliaeth oedd yn bodoli wrth weithio mewn amgylchiadau o’r fath. O fewn y gyfrol gwelwn ddiniweidrwydd plentyn wrth iddo ysu am gael car gwyllt i’w gario i lawr y mynydd ar ddiwedd diwrnod o waith. Ochr yn ochr â hyn ceir y cyfrifoldeb aruthrol oedd ar blant a phobl ifanc y cyfnod i fynd allan i weithio i gynnal eu teuluoedd.
Mae’r awdur yn glyfar iawn yn llwyddo i gyflwyno bywyd, gwaith ac ysbryd y bachgen ifanc a’r gymdeithas y mae’n rhan ohoni heb i Jac adael y gwely mewn gwirionedd. Ceir tro annisgwyl ar ddiwedd y stori gan ein gadael yn teimlo’n fodlon iawn wrth gau cloriau’r gyfrol.
Cyfrwng effeithiol iawn i gyflwyno hanes i blant a'u tywys i’r gorffennol. Mae’r iaith yn llifo’n esmwyth ac mae termau sy’n ymwneud â’r gwaith llechi yn cael eu cynnwys a’u hesbonio mewn modd dealladwy. Dyma adnodd addysgol gwerthfawr yn ogystal â chyfrol i eistedd ’nôl a'i mwynhau.
Ffion Bowen
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.