Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
GWLEDD O GAROLAU
Mae Côr Rhuthun yn gôr cymysg o ryw 50 o leisiau o Ruthun yng ngogledd Cymru, sy’n canu fel arfer yn Gymraeg. Cyfarwyddwr ac arweinydd y côr yw’r cerddor enwog Robat Arwyn, sydd hefyd wedi cyfansoddi llawer o’r gweithiau y mae’r côr yn eu canu.
Ffurfiwyd y côr fel côr ieuenctid yn 1981 gan y ddiweddar Morfydd Vaughan-Evans, er mwyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Anrhydeddwyd hi ddwywaith gan Orsedd y Beirdd, yn gyntaf gyda’r wisg werdd ac wedyn yn Eisteddfod Casnewydd 2004 gan y wisg wen. Mae’r côr wedi cael llwyddiant mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Maent wedi perfformio ar y teledu ac ar y radio dros y blynyddoedd ac wedi cynhyrchu 8 record a CD. Mae’r rhaglen bresennol yn cynnwys caneuon a darnau gan gyfansoddwyr Cymreig cyfoes fel Karl Jenkins a Richard Vaughan a Héctor Macdonald o Batagonia.
Ymhlith uchafbwyntiau’r côr yw gwahoddiad i berfformio yng Ngŵyl Gerdd Ontario, Canada, yn 2015, a pherfformio a recordio gwaith Robat Arwyn a gomisiynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol 2001 – Atgof o’r Sêr – gyda’r bariton byd-enwog Bryn Terfel a’r soprano Fflur Wyn. Yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013, roedd y côr yn allweddol i lwyddiant ysgubol cyngerdd agoriadol Caneuon Robat Arwyn.
Mae’r côr yn falch o’i gysylltiad parhaol gyda’i gynaelod Rhys Meirion, sydd bellach yn denor operatig rhyngwladol, ac o lwyddiant y bariton Meirion Wyn Jones (enillydd y Rhuban Glas), y soprano Kate Griffiths, a’r tenor ifanc, Elis Jones – y tri yn aelodau gwerthfawr o’r côr ac wedi cyfrannu i’r recordiad hwn.
Traciau -
01. Daeth Crist i'n Plith
02. Hwiangerdd Mair
03. Ar Gyfer Heddiw'r Bore
04. Lower Lights
05. Seren Bethle'm
06. Ganol Gaeaf Noethlwm
07. Veni Immanuel
08. I Fethlehem
09. Sêr y Nadolig
10. Gŵyl y Baban
11. O Dawel Ddinas Bethlehem
12. Mater Christi
13. Troyte's Chant
14. Wele, Cawsom y Meseia
15. Mae'r Sêr yn Canu.