Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Criw o ddynion o ardal Bro Ddyfi a’r cyffiniau yw Côr Meibion Machynlleth sy’n mwynhau dod at ei gilydd i ganu a chymdeithasu. Maent yn gôr cymharol ifanc gyda’r rhan fwyaf o’r aelodau rhwng 20 a 40 oed. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ffermwyr, ond mae ambell athro, adeiladwr a thrydanwr yn eu plith … ac un boi yswiriant!
Sefydlwyd y côr ym mis Hydref 2014 gyda’r bwriad o gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod yn 2015, eisteddfod leol i’r côr. Llwyddodd y côr i ddod yn ail yn y gystadleuaeth i Gorau Meibion yn yr eisteddfod honno, ac eto yn 2016 yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.
Traciau -
01. Y Goleuni
02. Beati Mortui
03. Heriwn, Wynebwn y Wawr
04. Dafydd y Garreg Wen
05. There is Nothin' Like a Dame
06. Salm 8
07. Joshua
08. Dies Irae
09. Ave Maria
10. What Shall We Do With a Drunken Sailor?
11. Ubi Garitas
12. Deus Salutis
13. Bui Doi
14. Gwinllan a Roddwyd
15. Côr Gore Dre'.