Côr Eifionydd, Tua Bethlehem Dref

 

Cyngerdd Nadolig Côr Eifionydd ar y nos Sul cyn yr Wyl yw un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i aelodau’r côr. Cynhaliwyd y noson bob blwyddyn ers dros 25 mlynedd bellach gyda’r elw yn mynd at achosion da lleol a chenedlaethol sydd â chysylltiad ag aelodau o’r côr.

Pan ddaw’r hydref bob blwyddyn, bydd Pat, yr arweinydd, yn dod â nifer o garolau newydd i’r ymarferion a bydd y gwaith o’u dysgu yn dechrau. Dyma arwydd bod y Nadolig yn nesáu. Byddwn wedyn yn eu canu gyda charolau mwy traddodiadol a charolau sydd wedi dod yn ffefrynnau gan aelodau’r côr.

Cam naturiol felly oedd cynhyrchu CD o rai o’r carolau a berfformiwyd ganddynt yn eu cyngherddau Nadolig dros y blynyddoedd diwethaf. 

Traciau -

01. Draw yn Ninas Dafydd Frenin

02. Ding Dong!

03. O Ddwyfol Nos

04. Iesu'r Mab Dinam

05. Carol yr Angylion

06. Cans i Nyni fe Aned Mab

07. O Faban Glân

08. Cwsg fy Maban

09. O Dawel Ddinas Bethlehem

10. Mae Gwahoddiad

11. Dawel Nos

12. Ganol Gaeaf Noethlwm

13. Tua Bethlehem Dref

14. Suai'r Gwynt

15. Ymunwch yn y Symffoni

16. Hwiangerdd y Nadolig

17. O Deuwch Ffyddloniaid.

£12.98 -



Rhifnod: 5016886278728
SAIN SCD2787

Falle hoffech chi .....