Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Cefais y syniad am Carolau Gobaith wrth orwedd yn effro yn fy ngwely un noson – cystadleuaeth rhwng timoedd o enwogion, sydd ddim yn enwog am ganu, i ganu deuawd gyda chantorion proffesiynol. Y tro hwn roedd yna dri thîm ac roedd yn bleser pur cael gwahodd dau ffrind Aled Hall ac Alun Rhys Jenkins a chael cystadleuaeth rhwng Tri Tenor Cymru!
Roeddem mor ffodus i gael gwesteion gwych ac fe lwyddom ni i gael cymeriadau a oedd yn fodlon mynd i’r pen dros eu timoedd. Fe gawsom lond bol o chwerthin yn ogystal a rhai dagrau. Rhodri Gomer Davies, Myfanwy Alexander, Mari Lovgreen, Richard Elis, Catrin Dafydd a Malcolm Allen, diolch o galon i bob un ohonoch am daflu eich hunain at yr her a’i wneud yn brofiad bythgofiadwy i ni gyd, gan gynnwys, dwi’n siwr, y gwylwyr. Gobeithio y byddwch yn cael mwynhad o wrando ar y CD gan feddwl yn ôl i’r rhaglen wrth wneud. Mwynhewch, a diolch am eich cefnogaeth i’r dair elusen fydd yn elwa, sef NSPCC, Cymorth Canser Macmillan ac Ambiwlans Awyr Cymru. Rhys Meirion