Capten Dan a'r Ruby Ann

Author: Siân Lewis.

Series: Cyfres Straeon Bywyd Cymru: 6

 A book in a series that looks at different periods/backgrounds in Welsh history, on which the story is based; this story is about the sailor's life. Suitable for readers aged 9-11 years.

 

Awdur: Siân Lewis.

Cyfres: Cyfres Straeon Bywyd Cymru: 6

Cyfrol mewn cyfres sy'n edrych ar wahanol gyfnodau/gefndiroedd o hanes Cymru ac yn cyflwyno stori yn seiliedig ar hynny; y mae'r stori hon yn ymwneud â bywyd y morwr. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed.

Bachgen deuddeg oed yw Daniel Davies sy’n byw ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ers yn dair oed bu’n uchelgais ganddo i fod yn gapten llong fel ei dad-cu. Bellach mae wedi ymuno â chriw y Ruby Ann. Darllenwn am ei brofiadau cyn iddo ymuno â’r llong ac am y cysylltiad rhyngddynt a’i fywyd yn awr.

Yn ogystal â bod yn stori ddiddorol ceir yma gyfoeth o wybodaeth. Enwir rhai o’r gwledydd y byddai’r llongau’n ymweld â hwy a’r llwythi oedd ar y llongau. Ceir yma eirfa forwrol – rhannau o’r llongau a’r mathau o longau oedd ar gael. Darllenwn am arferion y cyfnod o brynu siâr mewn llong ac o alw pobl yn ôl eu galwedigaeth; er enghraifft, Walter y saer llongau. Down yn ymwybodol bod y llongau hwyliau yn rhan annatod o fywydau pobl oedd yn bwy ar arfordir Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’r stori wedi’i hysgrifennu’n fedrus iawn gan ddefnyddio cyfoeth o eirfa. Ceir yma ddisgrifiadau byw a chymariaethau diddorol. Mae’n amlwg bod yr awdur wedi ymchwilio’n fanwl i’r cyfnod ac i fywyd morwrol yn arbennig.

Ceir darluniau lliw i gyd-fynd â’r stori a bydd y rhain yn siŵr o ychwanegu at apêl y llyfr i blant.

Delyth Mair Davies

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

£4.50 -



Code(s)Rhifnod: 9781845271640
9781845271640

You may also like .....Falle hoffech chi .....