Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Born in the Nantlle Valley in Gwynedd, that notable part of Snowdonia which also gave us the likes of Bryn Terfel, Rhys Meirion and Bryn Fôn, Robat Arwyn now lives in Rhuthun, and is the conductor of the famed Côr Rhuthun. But it is as a composer that he is best known, one of the most prolific and popular composers in Wales today. There is hardly a choir in Wales which does not have at least one Robat Arwyn song in its repertoire, and the strength of his appeal is evident in that soloists in many genres also revel in his songs. His compositions have a broad appeal, to all ages and tastes, and he has that rare ability to create a melody which has instant appeal, and stays in the memory.
This compilation brings together 19 recordings of choirs and soloists and ensembles as a celebration of the art of Robat Arwyn, including 'Benedictus' which was a hit for The Priests, and 'Anfonaf Angel', the haunting song which will now always be linked to the Wales Air Ambulance service.
Tracks –
1: Brenin y Sêr - Bryn Terfel & Côr Rhuthun
2: Yfory - Eirlys Parri
3: Pedair Oed - Rhys Meirion & Côr Rhuthun
4: Dy Garu o Bell - Gerallt Jones, Cwmni Theatr Meirion
5: Fel Un - Trisgell
6: Dagrau'r Glaw - Rhian Mair Lewis
7: Dal Fi - Côr Rhuthun
8: Sêr y Nadolig - Fflur Wyn
9: Ymlaen â'r Gân - Côr Iau Glanaethwy gyda/with Côr Hŷn Glanaethwy & Da Capo
10: Benedictus - Bryn Terfel & Rhys Meirion
11: Llanelidan - Trisgell
12: Cerdded Hyd y Llethrau - Lleisiau Mignedd
13: Hei Ti'n Cŵl - Guto Dafydd, Owain Llŷr ac Osian Meirion
14: Daeth yr Awr - Cwmni Theatr Meirion
15: Ave Maria - Maddau i Mi - Tri Tenor Cymru / The Three Welsh Tenors
16: Gwin Beaujolais - Trisgell
17: Sychwn Ddagrau - Côr Aelwyd Llangwm
18: Sefwch yn Llonydd - Geraint Roberts gyda/with Cwmni Theatr Meirion
19: Anfonaf Angel - Aled Myrd.
Mae cyfraniad Dyffryn Nantlle i fyd y gân yng Nghymru yn aruthrol; pe na baem yn mynd ymhellach i'r gorffennol na'r Brodyr Francis, gellir yn hawdd enwi rhes ddi-ddor o gantorion a chorau sydd wedi'n diddanu gyda'u doniau, a hynny mewn sawl maes cerddorol. Ac nid sôn yr ydym yn unig nac yn bennaf am ddiwylliant cartrefol a gwerinol y filltir sgwâr, ond sôn am ddoniau sydd wedi goleuo ffurfafen y byd cerddorol rhyngwladol. A'r un yw'r llinyn aur sy'n rhedeg drwy'r ddau - y lleol a'r byd-eang.
Yn sefyll allan fel cyfansoddwr yn y cwmni godidog hwn mae Robat Arwyn, y gŵr dirodres a diymhongar o Dal-y-sarn a gyfansoddodd ganeuon sydd bellach yn rhan annatod o raglen unawdwyr, partïon a chorau ledled Cymru a thu hwnt. Anaml iawn y cynhelir cyngerdd o unrhyw fath bellach heb o leiaf un o ganeuon Robat Arwyn, ac y mae'r un peth yn wir am raglenni radio a theledu.
Daeth i'r amlwg gyntaf fel aelod o'r triawd Trisgell, fel canwr ac fel cyfansoddwr, ac yno y gosodwyd y sylfeini ar gyfer gyrfa'r cerddor sydd wedi ei diwnio i glust y werin. Dro ar ôl tro, llwyddodd i greu caneuon sy'n mynnu cydio yn y dychymyg a glynu yn y cof, ac yn hyn o beth cafodd gymorth nifer o feirdd sy'n medru llunio geiriau arbennig iawn i gyd-fynd â'i gerddoriaeth. Yn wir, mae'r bartneriaeth rhyngddo â Robin Llwyd ab Owain yn sicr o fod yn un o bartneriaethau mawr byd y gân yng Nghymru, ond gwelir yn y casgliad hwn fel y mae nifer o feirdd, yn ogystal â Robat Arwyn ei hun, wedi priodi'r gair gyda'r gerddoriaeth yn llwyddiannus.
Braint yw cael cyflwyno'r casgliad hwn gan rai o artistiaid gorau Cymru, yn unigolion a chorau o bob math a maint, sy'n talu teyrnged drwy eu canu i'r cyfansoddwr, cyfeilydd, trefnydd ac arweinydd Robat Arwyn.
Traciau -
1: Brenin y Sêr - Bryn Terfel & Côr Rhuthun
2: Yfory - Eirlys Parri
3: Pedair Oed - Rhys Meirion & Côr Rhuthun
4: Dy Garu o Bell - Gerallt Jones, Cwmni Theatr Meirion
5: Fel Un - Trisgell
6: Dagrau'r Glaw - Rhian Mair Lewis
7: Dal Fi - Côr Rhuthun
8: Sêr y Nadolig - Fflur Wyn
9: Ymlaen â'r Gân - Côr Iau Glanaethwy gyda/with Côr Hŷn Glanaethwy & Da Capo
10: Benedictus - Bryn Terfel & Rhys Meirion
11: Llanelidan - Trisgell
12: Cerdded Hyd y Llethrau - Lleisiau Mignedd
13: Hei Ti'n Cŵl - Guto Dafydd, Owain Llŷr ac Osian Meirion
14: Daeth yr Awr - Cwmni Theatr Meirion
15: Ave Maria - Maddau i Mi - Tri Tenor Cymru / The Three Welsh Tenors
16: Gwin Beaujolais - Trisgell
17: Sychwn Ddagrau - Côr Aelwyd Llangwm
18: Sefwch yn Llonydd - Geraint Roberts gyda/with Cwmni Theatr Meirion
19: Anfonaf Angel - Aled Myrd.