Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Diana Kimpton; Welsh Adaptation: Emily Huws.
Cadi Wyn doesn't want to move away and leave her friends, but once she arrives at her new home (Ynys y Cerdyn), her aunt offers her a special present - a magic necklace which enables her to speak to animals!
Awdur: Diana Kimpton; Addasiad Cymraeg: Emily Huws.
Sshh! Mae gan Cadi Wyn gyfrinach ... mae hi'n gallu siarad gydag anifeiliaid! Dydy Cadi ddim eisiau symud oddi wrth ei ffrindiau a mynd i fyw ar Ynys y Cregyn. Ond ar ôl iddi gyrraedd yno, mae Bopa Gwen yn cynnig anrheg arbennig iddi - mwclis hud sy'n rhoi'r gallu iddi siarad gydag anifeiliaid!
Dydi Cadi Wyn ddim eisiau symud i Ynys y Cregyn. Pam mae'n rhaid iddi hi a’i theulu symud? Roedd hi’n hapus ble roedd hi! Ond dydi pethau ddim mor ddiflas â hynny wrth i Cadi setlo yn ei chynefin newydd. Ydi wir, mae’r mwclis hud yn dod â’i dirgelwch a’i difyrrwch ei hun. Addasiad yw’r gyfrol hon o Amy Wild ac mae hi’n stori ryfeddol am sut y mae un gadwyn fach yn dod â hud a lledrith i gartref newydd y prif gymeriad.
Diolch byth am Bopa Gwen a’i fflyd o anifeiliaid i ddiddanu Cadi pan nad oes ganddi awydd o fath yn y byd i ddechrau o’r newydd mewn lle dieithr. Parotiaid doniol, cathod a chŵn – dydi hi ddim yn anodd iawn gwneud ffrindiau newydd pan fo’r rhain o'ch cwmpas. Ond pwy fyddai wedi meddwl bod Cadi am blymio i fyd o hud a lledrith unwaith y mae hi’n cael mwclis yn anrheg gan Bopa! Yn eithaf sydyn, mae’r mwclis lliwgar yn helpu iddi achub bywydau ac mae anifeiliaid di-ri’n dod i'w helpu i chwilio am Cochen y gath.
Yn naturiol iawn ei hiaith yn y Gymraeg, dyma stori syml, lawn miri.
Llinos Griffin
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.