Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Series: Darganfod Mwy ...
Discover hundreds of great and gross insects and creepy crawlies in colourful, blown-up photos. Meet every kind of bug, from butterflies and beetles to spiders. Meet extraordinary bugs that kill with one bite! Find out how we can save bugs, and how bugs can save our planet.
Cyfres: Darganfod Mwy ...
Cyfle i ddod i adnabod cannoedd o drychfilod difyr a chofiadwy. Mae cyfle yn y gyfrol hon i gyfarfod â phob math o drychfil gan gynnwys y glöyn byw, y trychfil, y chwilen, gwas y neidr a'r neidr gantroed. Mae'n fyd rhyfeddol sy'n cynnwys trychfilod sy'n gallu lladd gydag un brathiad marwol! Cyfle hefyd i weld sut mae diogelu ein trychfilod.
Dyma bedwar ugain tudalen llawn dop o wybodaeth a'r cyfan wedi'i gyflwyno'n lliwgar a deniadol. Mae'r lluniau'n drawiadol o dda, a dychrynllyd ar adegau – er, rhaid i mi gydnabod bod lluniau fel hyn yn cael eu difetha drwy eu gosod ar draws plyg y tudalen. Mae'r lluniau yn mynd â ni i fyd bychan bach y pryfetach gan ddatgelu manylion na all y llygaid eu gweld yn rhwydd. Mae rhan gyntaf y llyfr yn cyflwyno gwybodaeth fwy cyffredinol am y bygs a gwybodaeth am y mathau o bygs a geir. Ceir hefyd fanylion am y sgerbwd neu'r gragen allanol ac am adenydd rhai bygs. Sonnir am allu rhai ohonynt wrth neidio a rhai eraill wrth guddio oherwydd eu cuddliw. Yna, wedi cyflwyno gwybodaeth fwy cyffredinol, ceir manylion am rai creaduriaid penodol megis y morgrug, y gwenyn meirch a phryfaid genwair, heb sôn am y cantroediaid. Mae'r gyfrol yn gyforiog o wybodaeth bwysig i'r gwyddonydd ifanc, ond ceir yma hefyd wybodaeth gyffredinol ddifyr iawn i'r darllenydd chwilfrydig. Mae'r awdur wedi plannu gwybodaeth o'r fath bron ar bob tudalen. Mae pedwar tudalen arbennig o ddiddorol, sef dau am y bygs sy'n bla, a dau am y bygs sy'n arwyr. Mae'r mosgito, ceiliog y rhedyn, chwilen Colorado a'r lleuen yn cael eu nodi fel pla, tra bod y cynrhonyn, y miltroed, y chwilen gorniog, y wenynen a'r fuwch goch gota yn arwyr am eu bod yn trin pob math o bydredd. Bygs yw 97% o greaduriaid y ddaear, sef creaduriaid heb asgwrn cefn, ac mae'r fath amrywiaeth yn cael ei hadlewyrchu yn y gyfrol liwgar hon. Tybed a wyddech chi y gall chwannen gathod neidio can gwaith ei huchder ei hun – tipyn o naid!
John Roberts
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.