Bryn Terfel, Caneuon Meirion Williams

Hwn yw’r tro cyntaf i ganeuon Meirion Williams gael eu crynhoi ar un recordiad, ac mae’n cynnwys y recordiad cyntaf o’r cylch “Adlewych” a gomisiynwyd gan BBC Cymru yn y 60au.

Daw'r recordiad hwn â dwy dalent arbennig iawn at ei gilydd - dawn y cyfansoddwr Meirion Wiliams ar y naill law a dawn y canwr-ddehonglwr Bryn Terfel ar y llaw arall. Ac yn eu cydio â'i gilydd, telynegion o waith rhai o feirdd mwyaf poblogaidd y werin Gymraeg. Hwn yw'r tro cyntaf i gasgliad o brif weithiau Meirion Williams gael ei gyflwyno ar un recordiad, a'r tro cyntaf erioed i'r cylch "Adlewych" gael ei roi ar CD.

Mae gallu Bryn Terfel i fynd i mewn i enaid cân yn amlwg yn y recordiad hwn, a'i allu hefyd i amrywio'i lais o'r tyner i'r tymhestlog, i gyfleu awel yma a chorwynt acw, yn cael ei arddangos i'r eithaf. Ac un o agweddau hynotaf y casgliadyw fod pedair o'r unawdau hyn wedi eu dyfansoddi ar gyfer llais tenor neu soprano - a diddorol iawn yw gweld sut y mae bas-bariton yn eu trin a'u dehongli.

Mae dewis Meibion Williams o eiriau yn dangos yn glir gymaint o ramantydd ydoedd, a chryfed oedd ei gariad at Gymru a byd natur. Yn Bryn Terfel cafodd ganwr deallus a llai godidog - ond, yn fwy na hynny, fe gafodd ynddo hefyd "enaid hoff cytun".

Traciau -

01 - Aros mae’r mynyddoedd mawr

02 - Gwynfyd

03 - Awelon y mynydd

04 - O Fab y Dyn

05 - Y llyn

06 - Cloch y llan

07 - Rhosyn yr haf

08 - Ora pro nobis

09 - Ffarwel i ti Gymru fad

10 - Pan ddaw’r nos

11 - Y Cymro

12 - Aberdaron

13 - Y môr enaid

14 - Rhos y Pererinion

15 - Yr hwyr

16 - Ffarwel y bardd.

£5.99 - £9.99



Rhifnod: 5016886201320
SAIN SCD2013

Falle hoffech chi .....