Y Bois a'r Hogia

A nostalgic collection of the male close harmony groups with their own brand of country and easy-listening songs from the 60s and 70s.

Tracks -

01. Dyddiau Difyr - Hogia Bryngwran

02. Ni'n Symudir Ni - Hogia Bryngwran

03. Dros y Mynydd Du o Frynaman - Bois y Blacbord

04. Yr Hen Bess - Bois y Blacbord

05. Llwybr y Plwy - Aled a Reg

06. Rownd yr Horn - Hennessys

07. Y Sipsi - Hennessys

08. Trên Bach yr Wyddfa - Hogia Llandegai

09. Lonna Lân - Hogia Llandegai

10. Cyrchu Gwraig - Y Derwyddon

11. Rho im dy Serch - Hogia'r Deulyn

12. Wil Coes Bren - Hogia'r Deulyn

13. Tyrd yn Ôl - Bois y Felin

14. Enfys - Bois y Felin

15. Trowsus Melfared - Griff a Watcyn

16. Rwyf yn dy Garu - Y Cwiltiaid

17. Heno - Y Cwiltiaid

18. Ble Mae fy Nhad - Y Castways

19. Y Gwanwyn - Hogia'r Wyddfa

20. Ddoi di Gyda Mi? - Hogia'r Wyddfa.

 

 

Casgliad newydd o ffefrynnau’r 60au a’r 70au o bob cwr o Gymru gyda Hogia Bryngwran, Deulyn, Llandegai a’r Wyddfa, Bois y Blacbord a’r Felin, gyda’r Hennessys, Aled a Reg, Y Derwyddon, Griff a Watcyn, Y Cwiltiaid a’r Castaways.

Flynyddoedd cyn bod sôn am unrhyw “boy band” yn canu yn Saesneg, roedd Cymru’n frith o grwpiau o fechgyn a dynion o bob oed yn difyrru eu hunain a’u cynulleidfaoedd wrth ganu mewn harmoni. Roedd rhai o’r caneuon yn wreiddiol, ac eraill yn rhan o draddodiad llafar gwlad y gwahanol ardaloedd: ambell i gân serch, caneuon am y filltir sgwâr, a dogn dda o dynnu coes. Amaturiaid yn canu am eu bod yn mwynhau canu oedd y rhain, er i rai fel Aled a Reg, Hogia’r Wyddfa, Hogia Llandegai a’r Hennessys ddatblygu’n lled-broffesiynol yn ddiweddarach oherwydd eu hapêl eang ddiamheuol.

Dyma’r cryno-ddisg cyntaf sy’n dod a goreuon y grwpiau hyn at ei gilydd, yn amrywio o ddeuawd fel Aled a Reg – y ddau lais mwyn a osododd gymaint o sylfeini i’n canu poblogaidd Cymraeg - i bartion meibion fel Hogia Bryngwran, yr arloeswyr o Fôn, a Bois y Blacbord, yr athrawon o Sir Gâr dan arweiniad Noel John a roddodd inni’r clasur “Dros y Mynydd Du o Frynaman”. Bydd y casgliad yma yn siwr o ddwyn atgofion lawer i filoedd ohonoch o’r dyddiau hynny pan oedd adloniant yn syml, di-ffrils ac agosatoch. Ac er bod y rhan fwyaf o’r caneuon yn gyfarwydd i lawer ohonoch, mae’n siwr y bydd yma ambell i berl llai adnabyddus, megis baled gynnil-ddigri Y Derwyddon o ardal Pontypridd, a thelyneg annwyl Aled a Reg i Lwybr y Plwy. Mae ambell un o’r caneuon hyn wedi ei hail-recordio’n ddiweddarach, ond clywir y recordiad gwreiddiol yma ym mhob achos er mwyn cadw naws a chymeriad y cyfnod. Golygwyd gan Dafydd Iwan o archif dapiau Sain/Cambrian/Welsh Teldisc.

Traciau -

01. Dyddiau Difyr - Hogia Bryngwran

02. Ni'n Symudir Ni - Hogia Bryngwran

03. Dros y Mynydd Du o Frynaman - Bois y Blacbord

04. Yr Hen Bess - Bois y Blacbord

05. Llwybr y Plwy - Aled a Reg

06. Rownd yr Horn - Hennessys

07. Y Sipsi - Hennessys

08. Trên Bach yr Wyddfa - Hogia Llandegai

09. Lonna Lân - Hogia Llandegai

10. Cyrchu Gwraig - Y Derwyddon

11. Rho im dy Serch - Hogia'r Deulyn

12. Wil Coes Bren - Hogia'r Deulyn

13. Tyrd yn Ôl - Bois y Felin

14. Enfys - Bois y Felin

15. Trowsus Melfared - Griff a Watcyn

16. Rwyf yn dy Garu - Y Cwiltiaid

17. Heno - Y Cwiltiaid

18. Ble Mae fy Nhad - Y Castways

19. Y Gwanwyn - Hogia'r Wyddfa

20. Ddoi di Gyda Mi? - Hogia'r Wyddfa.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886257822
SAIN SCD2578

You may also like .....Falle hoffech chi .....