Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Mae “Dore” yn gasgliad arallfydol a melodig o ganeuon newydd hirddisgwyledig wedi eu recordio dan ofal Gorwel Owen (cynhyrchydd Super Furry Animals, Gorkys, Pondman, Brave Captain, Kentucky AFC ayb).
Aiff “Dore” â chi ar daith i blanedau eraill o naws ddwyreiniol freuddwydiol ‘Cân yr Haul/Pysgod Breuddwyd yr Ucheldir’ i faledi syml a theimladwy fel ‘Yr Afon’ a ‘Gwely Pres’ a hen chwedl Myrddin yn ‘Y Chwedl Hon’.
Ymhlith y pigion eraill mae trefniant ôl-fodernaidd y sacsoffonydd Edwin Humphries o’r hen gân werin ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’, neges oesol Dewi Sant am y pethau bychain ar ffurf perffeithrwydd pop yn ‘Pethau Bychain Dewi Sant’ a thaith drwy’r awyr wag yn ‘Mynydd Du’. Ac mae rhagor na hyn…
Mae nifer o gerddorion eraill yn cynorthwyo Bob Delyn a’r Ebillion ar yr albym sef John Lawrence (Gorkys Zygotic Mynci, Infinity Chimps) ar y gitâr bedal ddur, Gai Tomos (Anweledig, Mim Twm Llai) ar y bâs, y nid anenwog Hefin Huws ar y drymiau ynghyd â’r cynhyrchydd ei hunan, Gorwel Owen ar amrywiol offerynnau ac effeithiau.
Agorwch y dore!
Traciau -
01 - Cân yr Haul
02 - (Breuddwyd) Pysgod yr Ucheldir
03 - Gwely Pres
04 - Bugeilio’r Gwenith Gwyn
05 - Hen Wr Mwyn
06 - Pethau Bychain Dewi Sant
07 - Lle Mae Dy Dad
08 - Y Chwedl Hon
09 - Yr Afon
10 - Mynydd Du
11 - Y Llanw Mawr Hallt
12 - Yr Haul yn Mynd i Lawr.