Seren y Rodeo

Author: Caryl Lewis.

Series: Cyfres y Teulu Boncyrs: 4.

An amusing story, with colourful and lively illustrations about the loveable boy, Bili Boncyrs; for readers aged under 7 years.

 

Awdur: Caryl Lewis.

Series: Cyfres y Teulu Boncyrs: 4.

Stori ddoniol gyda darluniau lliwgar a bywiog am y bachgen bach hoffus, Bili Boncyrs; i blant dan 7 oed.

Dyma gyfle unwaith eto i ddilyn hynt a helynt Bili Boncyrs a DJ Donci Bonc, yn ogystal â llu o gymeriadau gwallgo eraill. Y Gorllewin Gwyllt yw’r thema y tro hwn, a byddwch wrth eich bodd yn gweld Bili yn ceisio marchogaeth Mwwlsen y fuwch yn y dull rodeo. Tydi Mwwlsen ddim yn un i chwarae â hi, yn enwedig amser godro, fel y cewch weld.

Mae ôl graen ar ddiwyg cyffredinol y llyfr a’r lluniau yn rhai lliwgar a’r testun yn ddigon eglur. Hefyd mae’r stori yn un hawdd i’w dilyn. Dyma lyfr bywiog a fydd yn siŵr o apelio at bawb sydd â’r diferyn lleiaf o hiwmor yn llifo trwy ei wythiennau. Llyfr boncyrs yn wir.

Gwyn Tudur Davies

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

£2.95 -



Code(s)Rhifnod: 9780862437787
9780862437787

You may also like .....Falle hoffech chi .....