Bili Boncyrs ar y Fferm

Author: Caryl Lewis.

Series: Cyfres y Teulu Boncyrs: 6.

Bili Boncyrs, DJ Donci Bonc and their sisters go to help Farmer Huws on the farm. While Tili, Mili and Bili help, DJ Bonci Bonc gets into trouble while gathering the sheep on his motorbike...

 

Awdur: Caryl Lewis.

Cyfres: Cyfres y Teulu Boncyrs: 6.

Mae Bili Boncyrs, DJ Donci Bonc a'u chwiorydd yn mynd draw i helpu Ffarmwr Huws ar y fferm. Ond tra bod Tili, Mili a Bili yn helpu mae DJ Donci Bonc yn mynd i drafferthion wrth gasglu'r defaid ar y beic modur...

Mae Ffarmwr Huws angen cymorth, a chan ei bod hi’n wyliau haf, mae Bili Boncyrs a’i ffrindiau’n penderfynu helpu. Maent yn casglu’r defaid i mewn, yn dysgu sut i odro Mwwlsen y fuwch, yn bwydo’r anifeiliaid, ac yn rhoi byrgyr a tships i’r ci defaid llwglyd. Mae pawb yn cael llawer o hwyl pan lania’r asyn DJ Donci Bonc yn y domen ar ddamwain.

Is-deitl cyfres Bili Boncyrs yw ‘i bobl boncyrs ym mhobman’, ac, ar yr olwg gyntaf, mae’r llyfr hwn yn edrych yn fwy ‘seicedelig’ na’r llyfrau rwyf yn arfer eu darllen i’r plant. Serch hynny, neu efallai oherwydd hynny, mae’r lliwiau cryf, y siapiau diddorol, a’r digwyddiadau doniol yn apelio’n fawr iawn at y plant. Mae’r fam a’r tad hefyd yn mynd i fwynhau rhai o’r manylion annisgwyl, megis cylchgrawn Mochyndra y mochyn (gyda llun o fochyn mewn bicini ar y clawr!), welingtons piws Sili’r gath, a’r defaid bach bach a welir ymhobman ar y bryniau yn y cefndir. Ffefryn o lyfr i blant a rhieni’r unfed ganrif ar hugain!

Marion Löffler

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

£2.95 -



Code(s)Rhifnod: 9780862439552
9780862439552

You may also like .....Falle hoffech chi .....