Y Bandana, Bywyd Gwyn

 

    Yes, we are all familiar with ‘Y Bandana’ and have been since they were a bunch of 14 year old school kids, and they have guided us through the inimitable days of their teenage years. 

    All of the members are uniquely vivacious, and they perform with electricity running through their blood, they’ve won the ‘Song of the Year’ at the Selar Awards 3 years in a row. They capture their audience’ attention with their catchy songs, whether it’s at Caernarfon or all the way down at Cardiff.

    If you thought that Y Bandana could only express enthusiasm and youth through their songs, this second album, ‘Bywyd Gwyn’ proves that they can channel the same energy but through other themes and topics. The boys are grown-ups. They’ve been introduced to bars and beer gardens and they’ve learned how to pay the price the morning after. They’ve experienced the true meaning of freedom. Also they’ve managed to catch the girl’s eye at the bar, gained her as a girlfriend, but have ended under her thumb.

    ‘Bywyd Gwyn’ was produced by Mei Gwynedd over twelve months, a year which saw Y Bandana’s sound change dramatically, experimented with brass instruments, and also the use of acoustic guitar is heard. They began by recording the popular single ‘Heno yn yr Anglesey’ and ‘Geiban’; both these songs won their place on the album.

    We hear a vague echo of the raw sound of Y Trwynau Coch in ‘Byth yn Gadael y Tŷ’, and one of their latest songs, ‘Gwyn ein Byd’, has a more relaxed vibe, and they played around with this title to come up with the name ‘Bywyd Gwyn’ for the album. 

    Tracks –

    1. Cyffur

    2. Llafn y llif

    3. Byth yn gadael y ty

    4. Heno yn yr Anglesey

    5. Dim byd tebyg

    6. Ffwrnais

    7. Geiban

    8. Paid a d'eud na

    9. Gwyn ein byd

    10.Problema' pen melyn.

     

     

    Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y canwn. A hwnnw’n fachgen ifanc oedd wedi ei daflu o’r dafarn ar nos Sadwrn wlyb, oherwydd ei fod ‘dan oed. Ydyn, rydyn ni’n `nabod Y Bandana ers iddyn nhw brin fod yn bedair ar ddeg mlwydd oed ac maen nhw wedi ein tywys trwy ddyddiau dihafal glaslencyndod.

    Mae’r band dihafal o fywiog, sy’n perfformio fel bod cerrynt trydanol wedi eu meddiannu, wedi ennill y wobr ‘Cân y Flwyddyn’ Gwobrau’r Selar dair blynedd o’r bron. Maen nhw’n dal eu cynulleidfa yn y caneuon carlamus; a honno’n gynulleidfa sy’n mopio’r un fath o Gaernarfon i Gaerdydd.

    Ond os oeddech yn meddwl mai unig apêl Y Bandana oedd brwdfrydedd ieuenctid ffôl mewn curiadau lliwgar, bydd eu hail albwm, ‘Bywyd Gwyn’ yn profi y gallant sianelu’r un egni i diroedd cerddorol newydd. Mae’r bechgyn wedi tyfu. Maen nhw wedi cael camu i wres y dafarn ac wedi dysgu talu’r pris y bore wedyn. Maen nhw wedi blasu rhyddid go iawn. Wedi medru dal llygad yr hogan wrth y bar, ei hennill fel cariad, ac yna mynd o dan ei bawd.

    Dyma ffrwyth llafur blwyddyn o waith gyda’r cynhyrchydd Mei Gwynedd; blwyddyn a welodd sŵn Y Bandana yn troi cornel drymach, yn arbrofi gydag offerynnau pres, ac yn codi’r gitâr acwstig ar brydiau eraill. Dechreuodd y siwrnai trwy recordio’r sengl boblogaidd ‘Heno yn yr Anglesey’ a ‘Geiban’; dwy gân sy’n hawlio eu lle ar yr albwm. Mae awgrym o sŵn amrwd Y Trwynau Coch yn ‘Byth yn Gadael y Tŷ’, ac mae un o ganeuon diweddaraf Y Bandana, ‘Gwyn ein Byd’, yn dipyn mwy hamddenol, ac yn benthyg ei themâu i deitl yr albwm.

    Traciau –

    1. Cyffur

    2. Llafn y llif

    3. Byth yn gadael y ty

    4. Heno yn yr Anglesey

    5. Dim byd tebyg

    6. Ffwrnais

    7. Geiban

    8. Paid a d'eud na

    9. Gwyn ein byd

    10.Problema' pen melyn.

    £4.99 - £9.99



    Code(s)Rhifnod: 5055162140182
    COPA CD018

    You may also like .....Falle hoffech chi .....