Ar Noson Fel Hon

Mae sioeau cerddorol yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd y diwylliant Saesneg, yn enwedig felly i’r rhai sy’n mynd i Lundain am dro. A does dim dwywaith fod eu safon at ei gilydd yn arbennig o dda, ac nid yw’n fawr syndod fod caneuon o’r sioeau hyn yn cael eu trosi i’r Gymraeg, ac wedi cartrefu bellach ar lwyfan ein heisteddfodau ac ar raglenni teledu a recordiau Cymraeg.

Ond ddylen ni ddim anghofio fod yna draddodiad cyfoethog bellach wedi ei sefydlu o greu sioeau cerdd gwreiddiol yn Gymraeg, a chaneuon o’r sioeau hynny yw’r traciau a glywir ar y casgliad hwn. “Nia Ben Aur” a “Melltith ar y Nyth” oedd dwy o’r rhai cynharaf, a’r ddwy wedi eu seilio ar chwedlau’r Mabinogion, ac yna cafwyd cyfres o sioeau ardderchog Cwmni Theatr Maldwyn (yn ei wahanol ffurfiau) i sefydlu’r cyfrwng a’i sodro’n gadarn yn naear ein diwylliant brodorol.

Ychwanegwyd at y traddodiad gan sioeau a grewyd ar gyfer Eisteddfodau’r Urdd, a chan grwpiau theatrig a chymunedol ac addysgol mewn sawl cwr o Gymru, ac y mae Theatr Ieuenctid yr Urdd erbyn hyn wedi dechrau creu sioeau llwyfan sy’n seiliedig ar ganeuon bandiau megis Edward H. Dafis. Cyfrannodd y BBC hefyd at y gwaith hwn, gyda chynhyrchiadau megis “Melltith ar y Nyth” a “Plas Du”.

Y prif ysgogiad wrth roi’r casgliad hwn at ei gilydd felly oedd yr angen i ddathlu’r cyfoeth o sioeau cerdd cynhenid Cymraeg, gan fawr obeithio y bydd eisteddfodau’r dyfodol yn gwneud yr un modd wrth sefydlu cystadleuaeth reolaidd o ganu caneuon o’r gweithiau grymus hyn. Ac wrth gwrs, melys moes mwy.

Traciau -

1. Nia Ben Aur

2. Dagrau'r Glaw (Plas Du)

3. Ar Noson Fel Hon (5 Diwrnod o Ryddid)

4. Melltith ar y nyth (Melltith ar y Nyth)

5. Can Pedr (Gorffennwyd)

6. Dwed Wrthym Pam (Magdalen)

7. Tyfodd y Bachgen yn Ddyn (Jar Ty Isha)

8. Dial Goronwy (Y Mab Afradlon)

9. Ie, Glyndwr (Y Mab Darogan)

10. Rwy'n dy weld yn sefyll (Ann!)

11. Can y Bugeiliaid (Seren Newydd)

12. Tua'r Gymru Rydd (Dan Hwyl Wen)

13. Eryr Pengwern (Heledd)

14. Plant y Fflam (Edward H Dafis)

15. Dy garu o bell (Er Mwyn Yfory)

16. Daeth yr Awr (Jiwdas)

17. Iesu Yw (3,2,1).

£9.99 -



Rhifnod: 5016886263625
SAIN SCD2636

Falle hoffech chi .....