Annette Bryn Parri, Un Mondo a Parte

Ystod eang o gerddoriaeth ysgafn Cymraeg a Saesneg ar y piano.

Ganed Annette Bryn Parri yn Neiniolen, pentref bach yng Ngwynedd, lle mae’n parhau i fyw efo Gwyn ei gwr a’u tri phlentyn, Heledd, Ynyr a Bedwyr – mae’r gryno-ddisg yma yn gyflwynedig iddyn nhw .

Wedi addysg yn Neiniolen ac Ysgol Brynrefail, aeth ymlaen i astudio’r piano gyda Rhiannon Gabrielson o Benmaenmawr. Yna cafodd ei hyfforddi gan Marjorie Clement yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion lle graddiodd mewn GRNCM yn 1984. Tra’n cyfeilio yno, roedd Annette yn arbenigo yn y Lieder, oratorio a’r opera, ond roedd ei diddordeb mwyaf yng nghyfansoddwyr y Cyfnod Rhamantaidd. 15 mlwydd oed oedd Annette pan ddaeth yn gyfeilydd swyddogol. Yn 1982 enillodd wobr Grace Williams am gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli. Yn 1983, cafodd ei gweld am y tro cyntaf ar lwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni. Enillodd y Rhuban Glas yn Y Rhyl yn 1985. Yn 1984 ymunodd â’r Adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor, adran lle bu William Mathias yn bennaeth. Ers hynny, mae wedi bod yn diwtor piano i fyfyrwyr Cerddoriaeth sy’n dilyn cyrsiau B.A. a B. Cerdd, ac mae yn cyfeilio i fyfyrwyr yn eu harholiadau perfformio. Mae wedi cyfeilio i artistiaid enwog fel Bryn Terfel, Aled Jones, Eirian James a Rebeca Evans, ac mae’n gyfeilydd swyddogol i Hogia’r Wyddfa ers blynyddoedd. Gwelir hi’n rheolaidd ar lwyfannau Cymru ac ar raglenni S4C fel y "Noson Lawen".

Mae ei chyfansoddiadau yn cynnwys trefniant o ganeuon Andrew Lloyd Webber, caneuon Cymreig a melodïau amrywiol, cerddoriaeth i ffilm a cherddoriaeth ysgafn. Wrth gyhoeddi ei Chryno-ddisg o ddarnau i’r piano, dywed Annette ei bod am fod yn RICHARD CLAYDERMAN CYMRU! "Mae pianyddion yn brin iawn yng Nghymru, yn enwedig merched. Rydw i am ganolbwyntio mwy ar fod yn BIANYDD UNIGOL nag yn GYFEILYDD o hyn ymlaen."

Ar y CD yma, mae Annette yn cyflwyno ystod eang o gerddoriaeth ysgafn Cymraeg a Saeseng. Ymysg eraill, ceir Memory a Don’t Cry For Me Argentina gan Andrew Lloyd Webber, Wind Beneath My Wings gan Larry Henley, Pan Ddaw Yfory a Chware’n Troi’n Chwerw gan Caryl Parry Jones, In the Mood gan Joseph Garland, Yesterday gan John Lennon ac Ai am fod haul yn machlud gan Dafydd Iwan. "Mae rhain yn ddarnau mae pawb yn mwynhau," meddai Annette. "Er mod i wedi arbenigo ar ddarnau clasurol, dydy rheiny ddim yn gwerthu yng Nghymru. Roedd rhaid meddwl yn fasnachol a be ydi tast y cyhoedd."

Traciau -

01 - Un mondo a parte

02 - Il spirto gentil

03 - Toccata

04 - Bugeilio'r gwenith gwyn

05 - El cumbanchero

06 - Romance

07 - Rhapsody in blue

08 - Moonlight sonata Moonlight sonata

09 - Le Coucou

10 - La Vergine

11 - Tarantelle

12 - O! Holy Night

13 - Hwiangerdd a breuddwydion (Suo gan)

14 - Prelude in C minor.

£5.99 - £9.99



Rhifnod: 5016886236827
SAIN SCD2368

Falle hoffech chi .....