Aniq

Author: Marged Elen Wiliam, with Mahum Umer.

Series: Y Pump.

The third in the series of 5 novels in the Pump series. Aniq is one of the Pump gang in Year 11 of Ysgol Gyfun Llwyd. In the middle of a difficult period, coping with school life, loss and family conflict, religion, art and friendship are there to support her.

 

Awdur: Marged Elen Wiliam, gyda Mahum Umer.

Cyfres: Y Pump.

Dyma'r drydedd o bum nofel yng nghyfres Y Pump. Mae Aniq yn un o griw’r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Yng nghanol cyfnod anodd o orfod ymdopi â bywyd ysgol, galar a gwrthdaro teuluol, mae crefydd, celf a chyfeillgarwch yn gynhaliaeth iddi.

 

Cafodd Marged Elen Wiliam ei magu ym Mangor, cyn dilyn cwrs Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg King’s, Llundain. Ar ôl graddio bu’n gwirfoddoli mewn pentref yn Rajasthan, India, ac yna ddilyn cwrs ôl-radd yng Nghaergrawnt mewn Astudiaethau De Asiaidd Fodern. Roedd ennill Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen ynghyd ag ennill cystadleuaeth stori fer cylchgrawn Cara yn hwb iddi gymryd ysgrifennu yn fwy o ddifrif.

Mae Mahum Umer yn falch iawn o'i gwreiddiau Pacistanaidd-Cymreig. Mae’n astudio Cymraeg ac yn gobeithio defnyddio ei phrofiadau i ddod ag amrywiaeth i lenyddiaeth a’r cyfryngau.

Prosiect cyffrous ac uchelgeisiol am bum cymeriad 16 oed, yn darganfod eu lle yn y byd. Mae'r gyfres yn dathlu arallrwydd a gwahaniaeth, ac yn cofleidio cymhlethdodau pobl ifanc sy’n wynebu realiti oedolaeth a gadael plentyndod.

 

£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781800990630
9781800990630

You may also like .....Falle hoffech chi .....