Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Mae 10 Mewn Bws yn brosiect cerddoriaeth cyffrous a ddaeth â deg o gerddorion o gefndiroedd gwahanol ynghyd er mwyn cydweithio am gyfnod. Eu nod oedd ymchwilio i gerddoriaeth werin Gymreig, ac yna ei dehongli o’r newydd mewn ffyrdd fyddai’n berthnasol iddyn nhw ac i gynulleidfaoedd heddiw. Dros gyfnod o wythnos, teithiodd y 10 cerddor ar draws Cymru mewn bws, yn ymweld â rhai o ‘ddoethion’ y sîn werin, ac i bori mewn casgliadau o gerddoriaeth werin mewn llyfrgelloedd ac amgueddfeydd o gwmpas y wlad. Yn dilyn y daith, treuliodd y cerddorion wythnos yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, yn trefnu cerddoriaeth draddodiadol, yn ogystal ag ysgrifennu deunydd newydd yn seiliedig ar eu profiadau ar y bws.
Ar yr albym yma, byddwch yn clywed dylanwadau roc a phop, clasurol ac electronica, yn ogystal â cherddoriaeth werin. Mae’r traciau’n amrywio o’r traddodiadol i’r arbrofol, a phob un yn cynrychioli personoliaeth y cerddorion a’u cefndiroedd cerddorol. Ein gobaith yw y bydd yr albym hwn yn herio unrhyw ystrydebau am gerddoriaeth werin o Gymru.
Traciau -
1: Wel Bachgen Ifanc Ydwyf 1
2: Wel Bachgen Ifanc Ydwyf 2
3: Alawon Huw
4: Epynt
5: Abram Wood
6: Blodyn Aberdyfi
7: Calennig
8: Alawon fy Ngwlad
9: Patagonia
10: Caradog
11: Y Gaseg Ddu