Rhwng Môr a Mynydd (Sesiynau Sbardun)

Tracks –

01. Tyrd i Ffwrdd (Mei Gwynedd)

02. Fy Nghân i Ti (Linda Griffiths & Brigyn)

03. Coedwig ar Dân - (Elidyr Glyn (Bwncath))

04. Strydoedd Aberstalwm (Cowbois Rhos Botwnnog & Osian Huw Williams)

05. Hiraeth am y Glaw (Gai Toms)

06. Yr Hogyn Pren (Gwilym Bowen Rhys)

07. Dwi'm yn Licio (Magi Tudur)

08. Tre' Porthmadog (Parti Cut Lloi)

09. Cwm Ieuenctid (Mei Gwynedd & Elin Fflur)

10. Au Revoir (Gadael Bordeaux) (Brigyn)

11. Curiad y Dydd (Elidyr Glyn (Bwncath))

12. Lili'r Wyddfa (Cowbois Rhos Botwnnog)

13. Haul Hydref y Moelwyn (Gai Toms)

14. Da Gennyf Air o Ganu (Gwilym Bowen Rhys)

15. Jim (Magi Tudur)

16. Cân Sbardun (Dewi Pws, Linda Griffiths & Ar Log).

 

 

 

Mae’r casgliad hwn yn deyrnged ysbrydoledig i’r un sydd wedi’n gadael, sef Alun Sbardun Huws. Ysbrydoledig yn y lle cyntaf am fod y syniad o rannu offerynnau Sbardun i nifer o gerddorion ifanc yn wych o syniad, a hynny yn ei dro yn ysbrydoli’r cyfansoddwyr a’r cerddorion hyn i dalu gwrogaeth i Sbardun yn y ffordd orau posib – drwy ganu ei ganeuon, a chyfansoddi rhai newydd. A da gweld fel y chwaraeodd Radio Cymru, S4C a’r byd recordio ran wrth ddod a’r cyfan at ei gilydd.

Mae dylanwad Sbardun yn drwm ar y cyfan – yng ngeiriau ac alawon ei ganeuon ei hun wrth gwrs, gan gynnwys un o’i ganeuon hudolus olaf Lili’r Wyddfa, ond hefyd yng ngeiriau, alawon a chanu’r cyfansoddiadau newydd; ac yn gwau drwy’r cyfan mae sain disglair ei offerynnau hoff. Roedd Sbardun yn feistr ar ganu hiraeth – rhywbeth y mae’r rhan fwyaf yn ei osgoi fel y pla rhag bod yn rhy sentimental; ond doedd Sbardun ddim yn ofni hiraeth, gan ei fod wedi ei glymu’n sownd mewn amser a lle a phobol go iawn. A doedd neb yn well na fo am wreiddio caneuon mewn lle; fel arfer, Penrhyn oedd ei Aberstalwm, ond gallai hefyd ganu am lefydd pell, fel yn ei glasur Coedwig ar Dân, sy’n swnio yma fel petai wedi ei chyfansoddi’n arbennig ar gyfer llais bendigedig Elidyr Glyn.

Mae rhai o’r caneuon hyn yn cael bywyd newydd fel petai wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno gan leisiau gwahanol, a phob un o’r cantorion yn rhoi ei stamp ei hun ar y cyfansoddiadau cyfarwydd. Ond un o gryfderau’r casgliad yw fod nifer o gyfansoddwyr wedi cael eu hysbrydoli i greu caneuon newydd sydd naill ai’n deyrnged uniongyrchol i Sbardun, neu’n llwyddo i ddal ysbryd a naws ei ganeuon mewn gwisg wahanol.  

Traciau -

01. Tyrd i Ffwrdd (Mei Gwynedd)

02. Fy Nghân i Ti (Linda Griffiths & Brigyn)

03. Coedwig ar Dân - (Elidyr Glyn (Bwncath))

04. Strydoedd Aberstalwm (Cowbois Rhos Botwnnog & Osian Huw Williams)

05. Hiraeth am y Glaw (Gai Toms)

06. Yr Hogyn Pren (Gwilym Bowen Rhys)

07. Dwi'm yn Licio (Magi Tudur)

08. Tre' Porthmadog (Parti Cut Lloi)

09. Cwm Ieuenctid (Mei Gwynedd & Elin Fflur)

10. Au Revoir (Gadael Bordeaux) (Brigyn)

11. Curiad y Dydd (Elidyr Glyn (Bwncath))

12. Lili'r Wyddfa (Cowbois Rhos Botwnnog)

13. Haul Hydref y Moelwyn (Gai Toms)

14. Da Gennyf Air o Ganu (Gwilym Bowen Rhys)

15. Jim (Magi Tudur)

16. Cân Sbardun (Dewi Pws, Linda Griffiths & Ar Log).

£12.98 -



Code(s)Rhifnod: 501688627772*
SAIN SCD2777

You may also like .....Falle hoffech chi .....