Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Tracks –
01 - Yr arwr (Can Ulysses)
02 - Pan ddaw yr haf
03 - Mynydd Parys
04 - Dinas Noddfa
05 - Gorffennaf
06 - Barcelona
07 - Dim yn fy enw i
08 - Credaf
09 - Can y crwydryn
10 - Y trysor mwya'
11 - Be' 'di d'enw di
12 - Y drws
13 - Cae o yd
14 - Cynhaeaf
15 - Harbwr diogel (carioci).
Mae'r Moniars wedi bod yn un o grwpiau byw prysuraf Cymru, bron yn ddieithriad maent yn perfformio ar lwyfannau Cymru bob wythnos ac yn eu helfen wrth wneud hynny, maent, yn wir, yn edrych ymlaen i ddiddanu ar lwyfan. A'r edrych ymlaen yma i berfformio yw'r "edrych ymlaen" yn nheitl difyr y CD yma - edrych ymlaen at edrych yn ôl - hynny a'r ffaith i Sara Mai ddweud ei bod yn edrych ymlaen i ganu gyda'r Moniars pan gafodd wahoddiad i neud hynny ar y dechrau er ei bod, erbyn hyn, wedi ymuno â'r Moniars yn barhaol.
Mae'r Moniars wedi bod yn grwp sy'n rhoi cyfle a chymorth i grwpiau ac unigolion ifanc ers y cychwyn cyntaf ac wedi rhoi llwyfan a dechreuad i sawl un. Caneuon Arfon Wyn a cherddorion Y Moniars ddaeth â llais Elin Fflur i'n sylw gyntaf gyda llwyddiant y gân Harbwr Diogel yng nghystadleuaeth Cân i Gymru.
Wrth edrych ymlaen i'r dyfodol mae'r Moniars yn awyddus i roi cyfle i ragor o unigolion ifanc yn y maes canu poblogaidd yng Nghymru ac wedi gwahodd sawl un i ymuno â'r Moniars ar yr ablym yma. Meddai Arfon "Rydym ni'n teimlo for y CD yma yn gyfle i berfformwyr ifanc oedd ddim efallai, yn awyddus i gystadlu mewn cystadlaethau pop, ac yn y blaen, i gael perfformio ar CD gyfoes".
Mae pob cân ar y CD yn gyfansoddiad gwreiddiol gyda chwech cân newydd ac mae amrywiaeth o arddulliau ar yr ablwm - o roc uchel i ganeuon acwstig dwys. Y Band sy'n chwarae'r gerddoriaeth i gyd a dewisiwyd rhai o'r caneuon o blith cynhaeaf toreithiog y grwp Pererin o'r 80au, mewn fersiynau newydd yn ogystal - dyna'r edrych yn ôl yn nheitl yr albym - ac mae caneuon newydd megis Dim yn fy enw i, Cynhaeaf, a Barcelona a rhai oedd heb eu recordio o'r blaen fel Yr Arwr a Gorffennaf.
A'u gwesteion: Alys Williams, Deiniol Wyn Rees, Cerys Gwenllian, Meilyr Wyn, Iago McGuire, Gwyn Evans, Huw M Jones, Annes Wyn, Côr Aelwyd yr Ynys, Fiona Llwyd-Davies, Alwyn Morris , Sion Gwilym, Leah Bunce.
Traciau -
01 - Yr arwr (Can Ulysses)
02 - Pan ddaw yr haf
03 - Mynydd Parys
04 - Dinas Noddfa
05 - Gorffennaf
06 - Barcelona
07 - Dim yn fy enw i
08 - Credaf
09 - Can y crwydryn
10 - Y trysor mwya'
11 - Be' 'di d'enw di
12 - Y drws
13 - Cae o yd
14 - Cynhaeaf
15 - Harbwr diogel (carioci).