Gwlad yr Astra Gwyn (Series 1)Gwlad yr Astra Gwyn (Cyfres 1)

The light entertainment series Gwlad yr Astra Gwyn has proved extremely popular with S4C’s audiences and SAIN have the first series on DVD.  

The series is set entirely within a taxi where we get to meet a myriad of characters driven around by gullible driver Trefor – who is played by Rhodri Meilir who will be familiar to audiences of the BBC show My Family.

Trefor first appeared on our screens as part of the Ddoe am Ddeg series but his popularity saw S4C commission a six part series for Trefor and we then got to know his passengers a bit more - from the feisty Lisa to randy Vera and Jim the local head case, to Elen who hates Trefor and Leanne who love him, just that he’s too naïve to notice! All Trefor’s passengers are tinged with an element of sadness, but Trefor’s optimism to everything and everyone around him is tangible and he’s happy whatever happens.

Sketches:-

01. "Mardi-Gras ym Mangor Ucha"

02. "Cawl a nionod heb ddim lol a lobscows i lenwi'n mol"

03. "Mae un ac un yn ddau a chdi a fo di rhieni"

04. "Come on boy, hurry up"

05. "Mae'r ffŵl wedi dod ac mae'r ffŵl wedi mynd"

06. "Unwaith yn y flwyddyn rhaid dathlu'r diwrnod mawr"

07. "Weithiau rydw i'n gariad, weithia rydw i'n fasdad"

08. "Pan ro'n i'n ysgol"

09. "Sgin i'm byd i'w golli"

10. "Rhyw ferch yn gweiddi - 'Hi Man!'"

11. "Ti'n cynnig rhif dy ffôn, fel mathemateg pur"

12. "Ar strydoedd Aberstalwm"

 

Running Time - approx 145 minutes

Cert. - 15 - Content unsuitable for children under 15 years.

 

 

Mae’r gyfres ddrama ysgafn Gwlad yr Astra Gwyn wedi bod yn hynod o boblogaidd gyda chynulleidfa S4C ac erbyn hyn mae modd ail fyw y gyfres gyntaf ar DVD.

Ymddangosodd Trefor a’i dacsi ar ein teledu gyntaf fel rhan o gyfres Ddoe am Ddeg ac roedd poblogrwydd y cymeriad yn ddigon i sicrhau cyfres i Trefor a’i gwsmeriaid. Mae’r gyfres wedi ei leoli yn gyfangwbwl o fewn tacsi Trefor y gyrrwr diniwed sy’n danfon ei gwmseriaid selog hwnt ac yma ac er mai ond am deithiau byr y gwelwn ei gwsmeriaid down i’w hadnabod yn well wrth i Trefor ymateb iddynt – Leanne sy’n ei garu er bod Trefor yn rhy naîf i sylwi; Elen sy’n ei gasau; Lisa yr un gwyllt a Jim Jones y dyn hanner call sy’n siwtio’r nwydwyllt Vera i’r dim ac ynghanol hyn i gyd cawn sobrwydd Alwyn ynghanol yr holl rialtwch. Ond mae elfen o dristwch yn perthyn i gwsmeriaid Trefor i gyd ond er gwaethaf hyn mae diniweidrwydd naturiol Trefor yn gweld yr ochr orau i bawb a phob sefyllfa ac nid yw byth yn digalonni.

Pennodau:-

01. "Mardi-Gras ym Mangor Ucha"

02. "Cawl a nionod heb ddim lol a lobscows i lenwi'n mol"

03. "Mae un ac un yn ddau a chdi a fo di rhieni"

04. "Come on boy, hurry up"

05. "Mae'r ffŵl wedi dod ac mae'r ffŵl wedi mynd"

06. "Unwaith yn y flwyddyn rhaid dathlu'r diwrnod mawr"

07. "Weithiau rydw i'n gariad, weithia rydw i'n fasdad"

08. "Pan ro'n i'n ysgol"

09. "Sgin i'm byd i'w golli"

10. "Rhyw ferch yn gweiddi - 'Hi Man!'"

11. "Ti'n cynnig rhif dy ffôn, fel mathemateg pur"

12. "Ar strydoedd Aberstalwm"

 

 

Hyd - oddeutu 145 munud.

Tystysgrif - 15 - Cynnwys yn anaddas i rai dan 15 oed

 

£4.99 - £12.99



Code(s)Rhifnod: 5016886132457
SAIN DVD132

You may also like .....Falle hoffech chi .....