Chwilio am Seren

Author: Cindy Jefferies; Welsh Adaptation: Gwenno Hughes.

Series: Cylchgrawn Calon

A Welsh adaptation of Heart Magazine: Search for a Star. Ellie's thrilled to be doing work experience at teen magazine, Heart, even though life isn't all celebrity chat and fashion makeovers for the aspiring young journalist. She's trying to track down a famous author for an exclusive interview.

 

Awdur: Cindy Jefferies; Addasiad Cymraeg: Gwenno Hughes.

Cyfres: Cylchgrawn Calon

Dyma'r drydedd nofel yng nghyfres Cylchgrawn Calon gan Cindy Jefferies, awdur gwreiddiol y gyfres lwyddiannus, Gweld Sêr. Mae'r gyfres hon ar gyfer merched ychydig yn hŷn, oedran gwaelod uwchradd. Druan o Elin yn gorfod mynd â chi mae'r golygydd wedi'i ddifetha'n llwyr am dro yn hytrach na mynd ar drywydd cyfweliad efo awdur enwog!

Cipolwg ar fywyd prysur Cylchgrawn Calon sydd i’w gael yma a Chwilio am Seren yw’r drydedd nofel yn y gyfres. Dyma un sydd am fod at ddant merched yn eu harddegau cynnar ac unrhyw un sydd wrth eu boddau gyda byd ffasiwn, enwogion, a’r clecs diweddaraf.

Ond fel pob swydd arall, dydi bywyd ddim yn glam i gyd – dim hyd yn oed wrth weithio i gylchgrawn genod! Mae Elin Cadwaladr ar brofiad gwaith yn ei hoff gylchgrawn a’i bryd ar bethau mawr. Ond pan mae hi’n cael y dasg o ddarganfod y seléb diweddaraf ar gyfer erthygl, dydi pethau ddim mor hawdd â hynny! Mae Elin yn ysu i gyf-weld yr awdur dirgel, Harri Daniels, ond does dim hanes ohono yn unman. Does dim i’w wneud, felly, ond canolbwyntio ar dasgau eraill, megis mynd â Caswallon, ci bach y golygydd, am dro i weld ei ffrindiau, Cawr a Bwystfil, nes bod rhyw fath o gliw yn dod o rywle! Ydi hi’n rhoi’r ffidil yn y to? Ydi Harri Daniels am ymddangos o gwbl?

Fel swyddfa Calon, mae’r nofel hon yn brysur iawn hefyd ac yn gyflwyniad gwych i fyd gwaith. Gan sôn am sandalau ffasiynol ar y dudalen gyntaf un, mae hi’n sicr o apelio at ferched ifanc! A phwy a ŵyr, efallai bydd ambell un awydd rhoi cynnig ar y yrfa honno – ewch amdani, genod!

Llinos Griffin

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. 

£4.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781845274368
9781845274368

You may also like .....Falle hoffech chi .....