Cefn Gwlad, Y Cymeriadau

Length - approx. 180 minutes.

Language - Welsh.

Colour - Full Colour.

Certificate – E

 

 

Dai Jones Llanilar yn cyflwyno rhai o gymeriadau hoffus ac unigryw'r gyfres Cefn Gwlad dros y pum mlynedd ar hugain ddiwethaf. "Helo, a chroeso i DVD arall o'r gyfres Cefn Gwlad. Dyma gyfle i chi weld rhai o fawrion y gyfres ar hyd y blynyddoedd. Eisteddwch yn ôl yn gyfforddus, ac ymunwch â mi wrth i ni gofio rhai o'r unigolion bythgofiadwy hynny y cefais y pleser o'u cyfarfod yng nghefn gwlad Cymru.

RHAGLEN UN: 1. DON GARREG DDU Llanrhaeadr ym Mochnant (Y cawr o Gymro gyda Bess ei gaseg ddu a'i deulu croesawus) 2.JAC ARTHUR Llanwrtyd (Blodwen yr Hwch oedd cymar ffyddlonaf Jac Arthur, ac ef oedd un o gymeriadau mwyaf Llanwrtyd.

RHAGLEN 2 1. MARY JONES PANTAFON Clynnog Fawr (Un o Dai-lôn ger Clynnog Fawr oedd Mary â'i thraed a'i chalon yn ddwfn yng nghefn gwlad Eifionydd. 2. MALCOLM BLACK Pontlliw ger Abetawe (Gwerthu dilad mewn siop deithiol y bu Malcolm erioed. Gwaith sydd wedi mynd a fo i rai o ffermydd mwyaf unig De Cymru).

RHAGLEN 3 1. DEI PRICE WILLIAMS Tremeirchion, Dyffryn Clwyd (Cymeriad a hanner ac amaethwr wrth reddf, ac un fu'n adrodd ar lwyfan eisteddfod a chyngerdd am flynyddoedd) 2. JOHN PARRY MOCH Gwalchmai, Ynys Môn (Cymeriad `controfersial' oedd Johnny Moch o Walchmai, ac yma, mae yn ei seithfed nef yng nghanol ei gynefin a'i foch!).

Hyd - tua 180 munud.

Iaith - Cymraeg.

Lliw - Lliw Llawn.

Tystysgrif – E

£4.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886059457
SAIN DVD059

You may also like .....Falle hoffech chi .....