Cymru Gwynfor

A selection of poems and prose to celebrate Wales and the life of Dr. Gwynfor Evans.

Poems - Pa Beth Yw Dyn?, Y Ddrafft, Englynion Coffa Hedd Wyn, Eifionydd, Sir Gaerfyrddin, Y Meirwon, Rygbi, Pantycelyn, Blychau, Crib Goch, Llyn Y Gadair, Preseli, Cymru’n Un, Cymru (Detholiad), Ar Gyfeiliorn, Rhiannon, Anerchiad Etholiad Y Parch. Lewis Valentine, The Meeting, Cymru 1937, Y Tangnefeddwyr, Cân Bom, Fel Hyn Y Bu, Rhydcymerau, Ar Waun Casmael, Pa Beth A Wnawn Ni?, Hedydd Yn Yr Haul, Llyfr Hanes, Detholiad O “Hen Dy Ffarm”, Corlannau, Capel Celyn, Detholiad O “Tynged Yr Iaith”,Yr Heniaith, Colli Iaith, Recordiad O Ganlyniad Caerfyrddin, When Gwynfor Got In For Carmarthen, Gorffennaf 14eg, 1966, Trannoeth Is-Etholiad Caerfyrddin, Melys Yw, Fy Ngwlad, Etifeddiaeth, Llanw A Thrai, Darllen Y Map Yn Iawn, Cyffes Y Bardd, Yma O Hyd, Y Rhufeiniaid, Aderyn Rhyddid, Bwletin Newyddion – Marwolaeth Gwynfor, Eirlysiau, Detholiad O “Ymadawiad Arthur”

Llefaru – Dyfan Roberts, Sharon Morgan Mabon ap Gwynfor reads excerpts of the book “Bywyd Cymro” between the poems.

Gwynfor Evans was more than a mere politician; he embodied the desire of a nation for its freedom, for a better future for our people, and for a world of peace and fraternity. But he was also, despite the intensity of his vision, a man with his feet firmly planted on the ground. He knew that our dream could not be fulfilled without us working together in harmony, and our goal could not be achieved without hard work and perseverance. It would be easy, especially when one remembers also his deeply-held convictions as a Christian and pacifist, to portray him as a strait-laced humourless person, but that would be doing him a great injustice. As his family and closest friends knew full well, Gwynfor was a man with laughter in his soul, and he would enjoy nothing more than sharing in the mirth and jollity of a close-knit community.

This rich collection of poetry and prose, compiled by Dyfan Roberts, reflects the Wales of Gwynfor Evans, and the values which drove him and sustained him throughout his long life of campaigning. Here we hear the voices of some of Wales’ foremost poets, expressing the kind of nationalism which is deeply rooted in our history and land, and yet is as wide as humanity itself. For nationalism was not a narrow thing for Gwynfor Evans, but a world-encompassing vision, and this is what sustained him through years of being pilloried and ridiculed by people whose vision was lacking and whose horizons were confined. The collection is interlaced with music specially composed by Owain Llwyd of the University of Wales, Bangor, and quotes from Gwynfor Evans’ autobiography “Bywyd Cymro”, read by his grandson Mabon ap Gwynfor.

This recording was released to coincide with the 40th anniversary celebrations of Gwynfor’s historic break-through at the Carmarthen By-election on July 14th, 1966. But it is a recording which will retain its appeal as long as Wales lives, and as long as the memory lives on of one of the 20th century’s greatest Welshmen.

Detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith i ddathlu Cymru a bywyd y Dr. Gwynfor Evans.

Cerddi - Pa Beth Yw Dyn?, Y Ddrafft, Englynion Coffa Hedd Wyn, Eifionydd, Sir Gaerfyrddin, Y Meirwon, Rygbi, Pantycelyn, Blychau, Crib Goch, Llyn Y Gadair, Preseli, Cymru’n Un, Cymru (Detholiad), Ar Gyfeiliorn, Rhiannon, Anerchiad Etholiad Y Parch. Lewis Valentine, The Meeting, Cymru 1937, Y Tangnefeddwyr, Cân Bom, Fel Hyn Y Bu, Rhydcymerau, Ar Waun Casmael, Pa Beth A Wnawn Ni?, Hedydd Yn Yr Haul, Llyfr Hanes, Detholiad O “Hen Dy Ffarm”, Corlannau, Capel Celyn, Detholiad O “Tynged Yr Iaith”,Yr Heniaith, Colli Iaith, Recordiad O Ganlyniad Caerfyrddin, When Gwynfor Got In For Carmarthen, Gorffennaf 14eg, 1966, Trannoeth Is-Etholiad Caerfyrddin, Melys Yw, Fy Ngwlad, Etifeddiaeth, Llanw A Thrai, Darllen Y Map Yn Iawn, Cyffes Y Bardd, Yma O Hyd, Y Rhufeiniaid, Aderyn Rhyddid, Bwletin Newyddion – Marwolaeth Gwynfor, Eirlysiau, Detholiad O “Ymadawiad Arthur” Llefaru – Dyfan Roberts, Sharon Morgan. Mae Mabon ap Gwynfor yn darllen pytiau o “Bywyd Cymro” rhwng y cerddi Cryno-ddisg yn cynnwys detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith i ddathlu Cymru a bywyd y Dr. Gwynfor Evans (1:9:1912 – 21:4:2005)

Darllenwyr: Sharon Morgan a Dyfan Roberts gyda Mabon ap Gwynfor yn darllen detholiadau o hunan-gofiant Dr. Gwynfor Evans, “Bywyd Cymro” Cerddoriaeth, offerynnau: Owain Llwyd; Lleisiau: Côr Aelwyd yr Ynys.

Cyhoeddwyd y casgliad fel rhan o’r dathliadau i nodi deugeinfed pen-blwydd y fuddugoliaeth fawr yn Is-etholiad Caerfyrddin, Gorffennaf 14eg, 1966. Ond bydd yn gasgliad a ddeil yn ei flas tra pery’r iaith Gymraeg, a thra pery’r cof am un o Gymry mwyaf yr ugeinfed ganrif. Roedd Gwynfor Evans yn fwy na gwleidydd; yr oedd yn ymgorfforiad o ddyhead cenedl am ryddid, am ddyfodol gwell i’n pobl, ac am fyd o heddwch a brawdgarwch. Ond yr oedd, er mor danbaid ei weledigaeth, yn ddyn a’i draed yn solet ar ddaear Cymru. Gwyddai mai trwy gyd-weithio a chyd-dynnu y gwireddid ein breuddwyd, ac mai trwy waith dygn a dyfalbarhad di-ildio y caem y maen i’r wal. Hawdd iawn, o gofio hyn oll, yn ogystal â’i argyhoeddiad dwfn fel Cristion a heddychwr, fyddai ei ddarlunio fel gwr difrif-ddwys a di-hiwmor, ond gwneud cam ag ef fyddai hynny. Roedd Gwynfor, fel y tystia pawb o’i deulu a’i gydnabod agosaf, yn ddyn a chwerthin yn ei enaid, ac ni fyddai dim yn well ganddo na rhannu yn nigrifwch a hwyl cwmnïaeth werinol a ffraeth. Mae’r detholiad cyfoethog hwn o farddoniaeth a rhyddiaith, a gasglwyd ynghyd gan Dyfan Roberts, yn gais i gyfleu Cymru Gwynfor Evans, a’r gwerthoedd a’i gyrrodd ac a’i cynhaliodd drwy oes hir o ymgyrchu. Yma clywir lleisiau rhai o’n prif feirdd, megis Waldo a Gwenallt, yn mynegi’r cenedlaetholdeb hwnnw sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn yn ein hanes a’n tir, ac sydd eto mor eang â’r ddynoliaeth gyfan. Clymir y cyfan yn gelfydd gan gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig gan Owain Llwyd, o Brifysgol Cymru, Bangor, a geiriau Gwynfor ei hun o’i hunangofiant “Bywyd Cymro”, yn cael eu darllen gan ei wyr, Mabon ap Gwynfor.

£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886236025
SAIN SCD2360

You may also like .....Falle hoffech chi .....